Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR í AM IONAWR, 1825. ■ " ■ ■ ' • ■ >-------- BÜCHEDDAÜ. COFIANT AM Y PARCH. JOHN BROWNELL, Cenhadwr yn yr India Orìlewinol. Y dyn rhagorol hwn, a'r ffyddlon weinidog i Iesü Grist, a anwyd yn Altringham, tref fechan yn swydd Gaerlleon, yr 22ain o Ionawr, 1771. Yr oedd o duedd ysgafn, gellwerus, a gwag, er yn blentyn; a hyn a barhaodd yn bechod mwyafparod i'w amgylchu, hyd oni weithredwyd cyfnewidiad, trwy ras, ar ei dymher a'i ysbryd. Pan oedd oddeutu wyth neu naw oed, cafodd ei g^^studdio yn erwin. gan y frech wèo. Ar ol nychu yn hir o dan y elefyd annghysurus hwnw, adferwyd iddo ei iechyd, ond bu yn ddall am dair blynedd. Yna ei dad, ar ryw noswaith, a freuddwydiodd, y byddai (os cymerai ef ei fáb at ryw ffynnon bennodol yn y gymmydogaeth, a golchi ei lygaid yn y dwfr,) i'w olwg gael ei adferyd. Yn y bor'eu efe a gododd, a chymerodd ei fab gerfydd eilaw, ac aethant tua'r ffynnon; ac ar ol golchi llygaid y bachgen amrywiol o weithiau â'r dwfr, a llenwi ei gostrelau, dychwelodd adref. Wrth arferyd y moddion hyny amryw droion, daeth i weled cyn gystaí ag*erioed. Pa un a oedd yr effaith hwn yn deilliaw o herwydd rhyw naws mwynawl a allai fod yn y dwfr, nid wyf yn gwybod; ond yn y moddion, trwy ba un y dygwyd y tad i fabwysiadu yr elfen hon er gwellâd, yr ymddengys prawf neillduol o diriondeb Rhagluniaeth, yr hon sydd yn gwilio dros ddynion yn gyffredin, ac, yn enwedig, dros y rhai ag ydynt, neu a fyddent, yn etifeddion iachawdwriaeth, ac yn cael eu bwriadu i ryw ddefnyddioldeb neillduol yn Eglwys Dduw. Yr oedd Mr. Brownell, er yn ieuanc, yn wrthddrych argraff- iadau crefyddol; ac, o'r diwedd, daeth ei argyhoeddiad o bechod mor ddwfn fel ag i achosi llawer noswaith ílin a diorphwys iddo, ac yn fynych y gwasgai hyny oddiwrtho y weddi edifeiriol honno, " O a 2