Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 529. IONAWR, 1871. Pris lc. MISS CATHERINE HUGHES, POTTERY ROW, LLANELLI. 'ID wyf yn gwybod am well stimulant neu gymhellydd i ddaioni i'r oes sydd yn codi, na gwneyd cofnod o symmudiadau, neu ddyrchafiad ffyddloniaid ieuainc oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, y rhai mae eu hanes yn adeil- adol a buddiol i ereill ag sydd wedi eu gadael ar eu hol; fel mai nid er eu mwyn hwy yn unig yr ysgrifenir eu coffadwriaeth, ond er addysg i ereill, fel yr ysgrifenwyd hanes Abraham gynt. Na ddiystyred darllanwyr yr Athraw, gan hyny, ddarllen hanes bywyd rhinweddol y rhai a ymadawsant â'r fuchedd hon, gán adael ar eu hol esiamplau o rinweddaa moesola chrefyddol; nid er mwyn i ni yn ofergoelus eu parchu, ond er mwyn i ni yn ddifrifol eu hefelychu, mor belled ag yr oedd- ynt hwy yn canlyn Crist. Yr ystyriaethau uchod a'n tueddodd i ysgrifenu yr ychydig linnellau hyn am Catherine Hughes, yr hon ydoedd ferch ieuanc o gymmeriad da, bywyd diargyhoedd, ac ysbryd crefyddol. Merch ydoedd i'r diweddar James a Itachel Hughes, Mary St., Llanelli; ac er nad oedd ei rhieni yn proffesu egwyddorion y Bedyddwyt, (sef egwyddorion y Tes- tament Newydd,) eto hawliodd iddi ei hunan yr hawlfraint hòno a berthyn i bob creadur rhesymol, sef i farnu drosti ei hunan yn ei materion crefyddol; a'r man a ddewisodd Miss Hughes i arfer gwrando gair Duw, oedd yn nghapel Seion, lle y Uwyr argyhoeddwyd hi o'i chyflwr dirwyedig wrth natur, ac o'r anghenrheidrwydd am y cyfnewidiad hwnw ag y mae