Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. MAWRTH, 1858. RHIF. XII. § 11.—RHIFAU. Ansoddeiriau yw y rhifau, pa un bynag ai prif ai trefniadol (cardinal or ordinal) fyddont; oblegyd eu swydd yw neillduoli neu derfynu ystyr enwau. Y prif rifau a ddynodant rifau yn syml, heb un cyfeiriad at olyniad {succession) ;—un, dau, tri, pedwar, &c. Y rhifau trefniadol a cídynodant ddilyniad olynol;—cyntaf, ail, trydydd, pedwerydd, &c. Ni byddai dywedyd, tri dyn, yn arwyddo olyniad, nac yn awgrymu bod dynion ereill wedi bod dan sylw; ond byddai dywedyd, y trydydd dyn yn dynodi olyniad, ac yn arwyddo fod son wedi bod yn flaenorol am ryw ddyn cyntaf ac ail ddyn. Hefyd, y rhif lliosog o ran ystyr yw yr enwau a arferir gyda'r prif rifau ar ol y cyntaf, er mai unigol ydynt o ran fFurf; ond unigol yw yr enwau o ran ystyr a ffurf gyda y rhifau trefniadol, oblegyd un dyn a ddynodir wrth ddywedyd, y trydydd dyn, yn gystal ag wrth ddy- wedyd, y dyn cyntaf. Ffurfir y ihifau trefniadol trwy ychwanegu ed, fed neu med, at y prif rifau, oddigerth y pedwar blaenaf;— cyntaf ail, trydydd, pedwerydd. Mewn rhifau cyfan- sawdd arferir unfed yn Ue cyntaf; unfed ar ddeg, unfed ar hugain, &c.; ac weithiau deufed, dwyfed, yn Ue ail>