Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif612. RHAGFYR, 1877. Pbis lc. CADW Y SABBATH. fí|§lABBATH, neu orphwysfa. Talfyriad yw y gair Sabbi MSìN o'r gair Hebraeg Shabbath, yr hyn sydd yn arwyc •i i'» o-nrnhu'vsfa. Wprli i Tìrliiw nrnhpn rrpn v lirrlnprlíl. Sabbath rddo gorphwysfa. Wedi i Dduw orphen creu y bydoedd, a'r hyn oll sydd ynddynt, yr hyn a wnaeth efe mewn chwe' di- wrnod, gorphwysodd y seithfed dydd oddiwrth ei holl waith; nid am ei fod wedi blino, ond am fod ei waith ar ben, sef gwaith y greadigaeth. "A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a'i santeiddiodd ef: oblegyd ynddo y gorphwysasai oddiwrth ei holl waith, yr hwn a greasai Duw i'w wneuthur." (Gen. ii. 3.) Fel hyn fe ddarfu i Dduw neillduo y seithf'ed dydd i fod yn adeg neillduol iddo ef a'i greaduriaid rhesymol i gyfarfod â'u gilydd mewn modd neillduol, ac i gyfranu iddynt fendithion ysbrydol. Mewn canlyniad gorchymynodd iddynt gadw y Sabbath, gan ddywedyd, " Cofia y dydd Sabbath i'w santeiddio ef." (Ecsod. xx. 8.) Mae cadw y Sabbath yn ngolwg Duw, ac yn ngolwg pob dyn duwiol, yn mhob oes o'r byd yn waith pwysig. Mynych y cawn y Duw mawr, trwy ei ysgrifenwyr ysbrydoledig, yn dadgan ei deimlad mewn cyssylltiad a'i gadw, megys, "Yfory y mae gorphwysfa Sabbath santaidd i'r Arglwydd: pobwch heddyw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a'r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y boreu." (Ecsod. xvi. 23.) Hefyd dengys ei anfoddlonrwydd i'r rhai sydd yn ei halogi. " Am hyny cedwch y Sabbath; oblegyd santaidd yw i chwi; llwyr rodder i farwolaeth yr