Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 593. MAI, 187G. Peis lc. COFIANT DAVID JONES. 'ANWYD D. Jones yn mhlwyf Llanbedr, Mehefin 12fed, 1857. Mab ydoedd i David ac Elisẅeth Jones, y rhai ydynt yn aelodau o eglwys Fedyddiedig Salem, Cefn- cymmerau ; felly magwyd D. Jones mewn teulu crefyddol, a mwynhaodd fanteision yr ysgol Sabbathol. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nghwmynancol; ond yn y fiwyddyn 1871, symmudodd ei rieni ac yntau i le o'r enw Tyddynynant, ger Abermaw. Aeth angeu i mewn i'r teulu cysurus hwn, a chymmerodd y bachgen deunaw oed o'u mynwes; galarant yn ddwys ar ei ol. Mae yn amlwg mai profedigaeth chwerw i'w rieni oedd colli eu mab Dafydd : yr oeddynt yn meddwl llawer o hono, ac yn addaw llawer iddo ; ond tra ýr oeddynt hwy yn addaw iddo dywydd teg a llwyddiannus, daeth awelon oerion a difaol y glyn tywyll heibio, gan chwythu arno nes iddo wywo fel gwelltyn, a syrthio fel blodeuyn. Ddarllenwyr ieuainc yr Athraw, cofiwch beth yw eich einioes; canys " tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ao wedi hyny yn diflanu." Chwithau rieni, ymddarostyngwch-i Dduw yn ei drefniadau, ac na thristewch fel rhai heb obaith. Yr oedd gwrthddrych ein cofiant yn Fedyddiwr trwyadl o ran ei farn, ond ni chafodd y fraint o wneyd proffes o'i ffydd yn Mab Duw. Nid oes genym un radd o ammheuaeth na, fuasai wedi gwneyd, pe buasai eglwys berthynol í'r Bedydd- wyr yn agos i'r lle yr oedd yn by w; ond gan nad oedd yr un,