Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. Rhif 592. EBRILL, 1876. Peis lc. PREGETH A DRADDODWYD YN SEION, FESTINIOG, Hydref ÌOfed, 1875, seiliedig ar 2 Tim, iii. 15. GAN Y PARCH. E. PARRY. " Ac i ti er yn fachgen." Arn fachgen y sonir yn y testyn, ac felly bydd a fyno fy sylwadau heno, gan mwyaf â'r plant. Enw y bachgen hwn oedd Timotheus; yr hyn a ddywedir am dano ei fod yn gwybod—ymroddai i ddysgu ; a'r wybod- aeth a fedda yr oreu—"gwybod yr Ysgrythyr lân." Ym- drechwn yn gyntaf oil roddi ychydig o hanes y bachgen Timotheus i'r plant. Y lle yr oedd yn byio. Nis gellir bod yn sicr oddiwrth hanesiaeth Feiblaidd yn lle yr oedd cartref Timotheus bach. Nodwn ddau le, Lystra neu Derbe. Y peth tebycaf ydyw ei fod yn byw yn Lystra, tref boblogaidd yr amser hyny, ond y mae erbyn hyn wedi ei llwyr golli. Mae llawer o ddych- ymygu am y lle y ganwyd ac y magwyd y bachgen Timotheus, ond nis gellir cyrhaedd dim sicrwydd o hyn yma; mae Lystra fel amryw o hen drefydd enwog y Beibl wedi ei llwyr golli oddiar wyneb y ddaear. Tref baganaidd oedd Lystra; Cenedloedd gan mwyaf oedd yn byw ynddi. Lle hynod o anfanteisiol i Timotheus bach i fyw yn grefyddol. Nid oedd dim un synagog yn y dref; dim pregeth byth i'w chlywed, neb o'r plant o'i gyffelyb feddwl, ei hoU gymdeithion bychaia