Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATH Rhif 590. CHWEFROR, 1876. Peis lc. IOSIA, Y BRENIN IEUANC DUWIOL. GAN Y PARCH. C. DAV1ES, BANGOR. ERTHYGL I. "Tra yr ydoedd efe eto yn facligen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad."—2 Chron. xxxiv. 3. Yr oedd gan y bachgen ieuanc hwn enw dymunol iawn. Ystyr ei enw, yn ol rhai, yw " Tàn Iehofah," ac yn ol ereill, "Un yn cael ei gynnal gan Iehofah." Pa un bynag oedd yr ystyr, yr oedd yn enw oedd yn gweddu yn dda i'r bachgen yma, oblegyd fe fu yn ei oes fel tân Duw i ysu y drwg, ac i buro y wlad oddiwrth ei hannuwioldeb ; ac fe'i cynnaliwyd yn rhyfeddol gan Iehofah i fod o ddefnydd mawr yn ei ddydd. Yr oedd y bachgen yma yn dyfod o deulu da iawn, sonir yn y testyn am "Dafydd ei dad." Yr oedd yn perthyn i deulu Dafydd enwog; yr oedd yn "fab Dafydd," hyny yw, yr oedd yn dyfod o'i linach. Yr oedd enw Duw, a breintiau crefydd, wedi eu cyssylltu â'r teulu hwn trwy yr oesau ; ond yr oedd wedi dirywio llawer erbyn hyn. Yr oedd amryw o rai drwg iawn wedi codi yn y teulu ar wahanol amserau. Dyn drwg iawn oedd tad y bachgen yma, sef Amon ; a dyn annuwiol a chreu- lon iawn a fu ei daid am flynyddoedd lawer; hwnw oedd Manase waedlyd. Ond fe ddiwygiodd ef cyn marw, a chafodd drugaredd gan yr Arglwydd ; ond am Amon, tad y bachgen yma, bu ef farw yn ei annuwioldeb. Anfantais fawr i blentyn yw fod ganddo rieni annuwiol. Nis gwn a yw rhai o ddarllen- wyr ieuainc yr Athraw yn y cyfiwr hwn; os felly, gobeithio