Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. " Penaf petli yw doethineb, eais ddoethineb, aeâ'tli holl gyfoeth cais ddeall.' CHWEFROR, 1854. &A3>ffin w0 mm* ml mbto©. RHIP II.—PEN. I. GAN E. ROBERTS, CEFN BYCHAN. Wedi dangos yn y rhagarweiniad fod y ddyledswydd o fedyddio yn aros, traetha yr awdwr yn y hennod hon ar ystyr y genadwraeth a roddwyd i'r apostolion. " Ewch a dysgweh yr holl Genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd GÍân ; gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fì gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen." (Math. xxviii. 19, 20.) " Defnyddir y gair matheteuein, a gyfieithir ' dysgu' yma. yn yr ystyr yma weithiau, (Math, xiii. 52.); ond ymddengyB y golyga 'gwneuthur dysgybl,' (Liddell), ' hyíForddi n'eu ddysgu ma) dysgybl,' (Robinson),' tynu un •*it y grefydd Gristionogol,' (Schleustfer), mal Act. xiv. 21. Mae tair gweithred gan hyny yn cael eu gorchymyn,—dys- gyblu y Cenedloedd, eu bedyddio, a dysgu ufydd-dod iddynt i holl gyfraith Crist." Deallir y geiriau hyn yn aml fel pe y durlleniad fyddai, "gan fedyddio y Cenedloedd, a'u dysgu i gadw fy nghorchymynion, gwnewch ddysgyblioai o honynt; ' neu mewn geiriau ereill»"gwnewch ddysgyblion o'r Cenedloedd Inoy eu bedyddio a'u dysgu," &c. Yn ol y deongliad hwn o'r frawddeg, hòna rhai y dyíid bedyddio per- sonau, nid wedi iddynt ddyfod yn ddysgyblion, ond mewn trefn iddynt ddyfod yn ddysgyblion. Mae llawer o wrth- wynebiadau cryíìon ì'r goleu hwn ar y geiriau. 1 • " Heb wybodaeth flaenorol o Grist, a ífydd ynddo, ni ellid bedyddio y Cenedloedd; a buasai gorchymyn i'r apostolion tedyddio y Cenedloedd cyn iddynt gael eu dychwelyd, yn orcliymyn peth oedd yn annichonadwy. Pa fodd, er engh- raiíft, y gallai y Cenadon yn China fedyddio pobl Canton,