Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. HYDREF, 1858. BYB, HANES AM EDWARD OWEN, BEDO, MON. Er nad oes neb cyfiawn ar y ddaear, ac ni phecha, y mae rhyw bethau yn werth eu cadw niewn cof, am y rhai yd- ynt wedi gwneyd gweithredoedd o dda- ioni i'w cenedlaeth, a neb yn fwy felly na'r rhai hyny a wnaeth gras Duw yn ddefnyddiol gyda chrefydd ei Fab. Bu y brawd, yr hwn y mae ei enw wrth ben yr ysgrif hon, yn fuddiol mewn amryw ffyrdd gyda chrefydd Crist yn ei ddydd, a rhoddodd brawf blwyddau lawer trwy fod gyda hi, ei bod yn well ganddo na'r oll a feddai yn y byd. Mab ydoedd Ed- ward Owen, i Owen a Margaret Jones, Parlwr, Llanfachreth, tyddynwyr cyfrif- ol yn y plwyf hwnw. Yr oedd iddynt chwech o blant, ac Edward oedd yr ieu- engaf o honynt. Yr oedd ei fam Mar- garet Jones, yn perthyn i grefydd Crist, yn nghyfundeb y TrefnyddionCalfinaidd. Yr oedd yn cael ei chyf'rif yn wraig hynod o rinweddol, ac yn ofalus am ddwyn ei phlant i fyny yn grefyddol, yn ol ei gol- ygiadau hi am grefydd. Felly dygwyd gwrthddrych y cofiant hwn yn foreu o dan argraffiadau o barch at bethau dwyf- ol, a dechreuodd ei yrfa grefyddol o dan nawdd pobl ei fam, heb fawr neu ddim teinilad pellach o fawredd drwg pechod, a phwysfawredd cadwedigaeth enaid, amgen na'r hyn oedd agos yn naturiol ganlyniadau dysgasiampl mam dda, a'r hyn a glywsai gan bobl eglwys y Chwaen wen.* Treuliodd y rhan foreuol o'i am- ser heb ddim yn nodedig, i'm gwybod- aethi,i'wgoffäuareiol. Panoeddtuagug- ainoed,efeabriododdâChatherine Jones, o Bentregwyddil. Nid oedd y ferch ieu- anc hon yn proífesu crefydd,ond yr oedd o nodweddiad diwair, ac yu cael ei chyd- nabod fel lodes hynod o weddus a dirys- edd ei hymarweddiad. Ond yr oedd rheolau y corph crefyddol y perthynai Edward Òwen iddo, yn gofyn iddo i gael ei ddiaelodi o herwydd iddo briodi âg un o'r byd. Oblegyd yr afael oedd gan hen flaenoriaid y lle yn Edward Owen, darfu iddynt ei gynghori i aros allan am ych- ydig, yn hytrach nag iddo gael ei ddi- * Yr oedd capel Ty'n y raaen heb ei adeiladu y pryd hwnw. aelodi yn hollol,adweyd wrthoy derbynid ef yn ei ol yn bur fuan, ond iddo edifarhau. Yn yr achos dyrys hwn, dechreuodd ym- holi, "Pa beth a wnaf ? Gobeithio na bydd byth yn edifar genyf briodi fy ngwraig." Ac wrth bob argoelion, ni bu yn ediiar ganddo. Buont fyw am lawer o flyn- yddau yn gysurus gyda'u gilydd, a bu iddynt ddeg o blant, dau o ba rai a fuont feirw, a'r gweddill ydynt wasgaredig, rai o honynt bellderau oddiwrth eu gilydd ; ac y mae y fam eto yn fyw, ac yn parhau i alaru ar ol ei hánwyl briod, yr liwn a gollodd cyn iddi flino ar ei gymdeithas. Ar ol ei briodas, ac o herwydd fod yr achos rhyngddo ef a'i hen frodyr yn ymddangos yn ddyrys iddo, efe a fu am rai blynyddau heb fod yn perthyn i un enwad crefyddol. Nid all'sai deimlo i fyned yn ei ol at yr enwad y perthynai iddo o'r blaen, am eu bod yn gofyn edi- feirwch ganddo am briodi un o'r byd, ac yntau heb edifarhau am briodi ei wraig; ac nid oedd yn ymdeimlo i ddweyd peth nad oedd wir, hyd y nod i'r dyben o aden - nill ei le yn mhlith ei hen frodyr. 0 dan yr amgylchiadau hyn, aeth i wrando yn fwyaf neillduol ar y Bedyddwyr, yn ben- difaddeu ar Christmas Evans. Ar y Gymmanfa gyntaf a gynnaliwyd gan y Bedyddwyr, yn Nghaergybi, daeth yno i wrando, pryd ar yr hwyr cyntaf, yr oedd y diweddar John Herring o Aberteifi, yn pregethu. Yr oedd Herring y pryd hwnw yn moreu ei oes bregethwrol, ac j yn llawn o ddawn. Y geiriau y pregeth- ai oddi wrthynt, oeddynt. " Mi a drugar- haf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yrhwn y tosturiwyf.'' Yr oecld Edward Owen yr amser hwnw wedi Uyncu egwyddorion Arminiaeth yn lled bell, a Herring yn pregethu yn uchel Galfinaidd, a'r peiriannau yn gweithredu yn nerthol oddiar ddawn rhesymiadol a serchiadol Herring, feì yrhoddodd syl- faeni Arminaidd Edward Owen ff'ordd, ac y dinystriwyd ei holl obeithion blaen- erol dtn ei gyflwr crefyddol; ac argraff- odd y geiriau ntor ddwfn ar ei feddwl, fel nad allodd diafol nac anystyriaeth byth mo'u dileu. Bu am rai misoedd o dan deimladau mor ddwysion am achos ei 28