Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y aREAL. MAI, 1858. «ANNERCHIADJUGEILIOL. NATUR A CHYFANSODDIAD EGLWYS GRISTIONOGOL.* LLYTHYR I. " A rhoddwyd i mi gorsen debyg i wialen. A'r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod,amesura deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sydd yn addoli ynddi."—Dad. xi. 1. " What was all that the false doctors of the,Primitive Church and ever since have done. but ' to make a fair shew in the flesh,' as St. Paul's words are? If we have indeed given a bill of divorce to Popery and superstition, why do we not say as to a divorced wife, Those things which are yours take them all with you, and they shall sweep after you? Why were not we thus wise at our parting from Rome? In- steadofthat, we still dote upon the barlot's trappings, and cry out sacrilege and misdevotion against those who iu zeal have demolislied the dens and cages of her unclean wallowings."—Miltoiî. Nid yw proffesu gydag unrhyw blaid grefyddol o fawr les, nac yn debyg o sicrhau cyssondeb, sefydlogrwydd, ac ymlyniad diysgog wrth ein hegwyddor- jon, os na fydd y gyfry w broffes yn syl- faenedig ar argyhoeddiad cydwybodol o wirionedd ac ysgrythyroldeb yr egwydd- orion a broffesir genym, ac nid yn effaith rhagfarn, dygiad i fyny, dygwyddiad am- gylchiadol, neu ryw les tymhorol. Cyn y gellir cyrhaedd y cyfryw argyhoedd- iad, anghenrhaid yw meddu gwybod- aeth ddeallgar o'r hyn a broffesir genym, ac hefyd o'r hyn a broffesir gan rai sydd yn dal golygiadau gwahanol i ni, fel y gallorn wabaniaethu rhwng y nailì beth a'r llall, barnu yn gydwybodol drosom ein hunain, glynu yn ddiysgog wrth ein begwyddorion, a bod yu barod bob am- ser i roddi rheswm am y gobaith sydd Ímom. Yr ydym heb yr ammheuaeth leiaf yn credu fod y mwyafrif o gref- yddwyr ein gwlad yn mheìl o ddyfod i íyny at y safon yma. Mae gwahanol enwadau y wlad yn Hio8og eu canlynwyr, ac witlii yn selog yn proselyteiddio rhagor o ddysgybiion, ond truenus yw meddwl mor Ileied o honynt sydd, wrth ddewis eu plaid, }*n fweithredu oddiar wybodaeth ac argy- oeddiad cydwybodol. Cyssylltiad per- thynasol, rhagfarn dysgeidiaeth a dygiad i fyny, rhyw ddygwyddiad neu ddylan- wad amgylchiadol, neu ddifaterwcli pa beth a broffesir, ond cael enw o grefydd, sydd yn peri i lawer ymuno gydag un blaid yn hytrach na'r blaid arall. Ac [ •Traddodwyd sylwedd y sylwadau hyn gan yr ysgrifenydd mewn cwrdd eglwysig, er addysg ac adeiladaeth i'r " newyddian yn y ffydd " yn mysg y praidd sydd dan ei ofal. Maddeued ei frodyr bu- eiliol iddo am fod mor ryfygas a galw eu sylw yn ostyngedig at yr un cynllun. nid oes eisieu i ni betruso am fynyd, nad oes llawer yn ein gwlad, yn cymmeryd eu lly wodraethu, yn eu gogwyddiad at y naill blaid mwy na'r lla.ll, gan ddybenion bydol, anianol, arhy ddirmygedie braidd eu henwi mewn cyssylltiad â cnrefydd yGwaredwr; megys, balchder a gwag- ogoniant, bydolrwydd, hunan-les tym- horol, ac esmwythyd crefyddol. I'r rhai hyn y bluid fwyaf fashionable—gyf- oethog, a phoblogaidd, yw yr un fwyaf orthodox; mae pob plaid arall yn her- eticiaid damniol yn eu golwg. Mae y blaid boblogaidd bob amser yn iâch yn y ffydd yn ngolwg y lliaws anwybodus, nad ydynt byth yn breuddwydio am cliwilio a barnu drostynt eu hunain, ond troi ^yda'r gwynt, a syrthio i lawr gyda'r dorf wrth sain y chwibahogr a'r dulsimer i addoli y ddelw aur. Dyna sydd fivyaf Ilesol, parchus, ac esmwyth yn eu golwg. Eglwys Loegr yw y blaid fwyaffashion- able a chyfoethog yn y deyrnas hon, ac o herwydd hyny, y mae ynddi ragor- iaethau hynod o ddwyfol ac apostolaidd yn ngolwg dosbarth lliosog o'n cyd- wladwyr. Mae yno ryw fantais dym- horol yn aml i'r tlawd a'r gwasaidd, ac ymborth blasus i enaid y trwag-falch, y ffol, a'r arwynebol, yn nghymdeithas y cyi'oethog, y rhwysgfawr, a'r anrhyd- eddus; ac y oiae yno ffurf o grefydd fon- eddigdidd, ready made, dan nawdd y goron a'r llywodraelh—ei swyddogion yn bendefigion, a'i gwasanaeth yn es- mwyth a defodol, ac yn hynod o gyf- addas i'r arwynebol, yr anianol, a'r ar- bydol, nad ydynt yn ymofyn un trafferth nac ymdrech personol, na ditnau o gost, gyda pheth mor ddibwys a'u "mater ys- brydol;" ond c'aeî y cwbl yn barod ac am ddim ar gost y wlad." O ! 'ie, peth cywilyddua yn eu prolwg yw y begging 13