Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GREAL. MAWRTH, 1855. TRADDODIADAU DYNOL. 1?1RM_MIE10 Gan y diweddar John Jones, Castell, ger Lìandudno. '■ Ac fel liyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun."—Math. xv. 6. Bwriadwyd llywodraeth foesol Duw ar ei greaduriaid rhesymol, i ateb yr un dyben yn y byd moesol, ag y bwriadwyd deddf pwys a thyniad yn y byd defuydd- iol. Deddf pwys a thyr.iad a geidw holl elfenau anian yn eu lleoedd priodol, a'r afrifawl fydoedd i gylchdroi yn rheol- aidd yn yr ëangder inawr, yn ol irosodiad eu Crewr. Felly, yn llywodraeth Duw, trwy ei gyfreithiau yn enaid dyn, y niae gryin a nerth i gadw yr hoîl gynneddfau eneidiol i weithredu yn rheolaidd yn eu lleoedd priodol; a bodau rhesymol i droi yn eu cylchoedd priodol, i ddwyn gogon- iant i Dduw, dedwyddwch iddynt eu hunain, a lles i ereill. Pe diddymid gryin deddf pwys a thyniad, yn y fan cymerai y dyryswch a'r annhrefn mwyaf le yn y greadigaeth. Felly, yr acîios o'r holl annhrefn a'r trueni sydd yn y byd nioesol yw, fod llywodraeth Duw wedi colli ei gtym a'i dylanwad ar feddyliau bodau rhesymol; a'r ysbryd drwg a thra- ddodiadau dynol a lwyddasant i wneyd hyn. Os bu yr ysbryd drwg yn llwydd- iaiinus i ddwyn annhrefn a thrueni i'r hyd, ni fu traddodiadau dynol yn llai llwyddiannus i'w gadw yn y cyflwr hwnw. Rhoddodd yr Arglwydd ei gyf- raith, a dadjjuddiodd ei ewyllys rasol i'r genedl Iuddewig; ond torwyd grym ei orchymynion, a'u dylanwad ar y inedd- wl, trwy draddodiadau dynol, ai ba rai y rhoddant fwy o bwys na gair Duw. Canfyddwn hyn yn y cyd-destynau blaenorol. Yr oedd tfanddŷnt draddod- j^d mai annghyfreithlawn oedd bwyta, heb yn gyn'taf olchi y dwylaw ; a phan welsant nad oedd dysgyblion Crist yn ufyddhau i'r traddodiad hwr.w o eiddo eu henafiaid, rhyfygasant alw eu Hath- raw i gyfrif am hyny; oddiar ba ach- lysur y cymerodd ein Harglwydd y •?]"iw ceryddu y» ^y»1» trwy ddang- ps ìddynt duedd niweidiol eu traddod- «adau. " Paham," ebe fe, " yr ydych cnwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy «ch traddodiad eich hunain V Paham, a ydyw eich henafiaid yn deilyngach i gael nfydd-dod na Duw? Pa hawl oedd ganddynt i wneyd cyfreithiau neu reol- au? Pwy a roddodd awdurdod iddynt? Neb ond Duw ni allasai roddi; ac na roddodd ef, sydd eglur, canys y mae eu traddodiadau yn ihyfela yn erbyn ei lef- erydd yn ei dir; canys Duw a orchyin- ynodd, gan ddywedyd, "Anrhydedda dy dad a'th fam; a'r hwn a felldithio dad neu fam, lladder ef yn farw. Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, rhodd yw pa beth bynag y ceit les oddiwithyf fì, ac ni anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun." Y meddwl gwreiddiol sydd genyf fi ar yr adnod ìiou sydd fel hyn,—Fod mab a feddai ar dda bydol yn dywedyd wtth ei rieni anghen- us, os ímasai iddynt dderbyn dim oddi- ar ei law ef, y dylasent ei gydnabod fel rliodd, ac nid fel dyled; ac felly, ei fod yn rhydd oddiwrth y ddyledawydd o'u hanrhydeddu â'i gyfoeth; ao, er l'.yny, yn ddifai gan fiaenoiiaid y genedl. Fe- allai mai eu dyben yn hyn oedd, bodd- hau balchder a chreulondeb y cyfoetli- ogion ; ond y mae esbonwyr yti dywedyd, niai eu byd tymhorol eu hunain oedd gan yr athrawon luddewig mewn golwg yn y traddodiad hwn ; eu bod yn can- iatâu i'r plant beidio cynnorthwyo eu rhieni, i'el y gallent hwy ddysgwyi ych- waneg oddiwrthynt fel ofl'rwm crefyddol; a phan ol'ynai eu rhieni gymhorth oddi- ar eu Uaw, y gailent liwytíiau eu hateb, eu bod wedi rhoddi yr hyn a bennodasid iddynt hwy, at achos Duw ; ac yna, tyb- ient, ond odid, y gallasent fod yn ddigon taweì eu cydwybodau pe gadawsent eu rhieni i drengu o newyn. Mae llawer ar enw athrawon yn eiu dyddiau ninau, yn yspeilio eiddo y tlodion; a bychan gan lawer ddirymu gorchymynion Duw, trwy eu traddodiadau eu hunain. Bell- ach, galwn eich sylw at y testyn :—