Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE IFOIIYDD, Rhif. 20.] AWST, 1842. [Cyf. II. ATHIIONIÄETH CWSG. CWSG ydyw y cyflwr cyfryngedig rhwng bywyd ac angau ; bywyd a ystyria y cyfluniad yn y llawn fwynhad o'i ysgogiadau, ac angau pan y Ilwyr ballont. Y mae cwsg yn cael ei gymes- uri yn amrywiol gan iechyd ac aficchyd. Mewn cwsg anghydfynedol â brcudd- wydiaw, ni fodola cydwybodolrwydd, yr hynleiaf, nid ocsun prawfgenym o'i fod- oliaeth. Gellir, gan hyny, yn gyfiawn haeru fod y fath gwsg yn angau tymhor- awl ac arddansoddawl, er nad ydyw yn un cyflunawl, gan fod y gaìon a'i ysgyf- aint yn cyflawni eu swyddau gyda eu trefnusrwydd arferawl o dan reolaeth y cyhyr a wcithrcdant yn annibynol odd yr ewyllys. Y mae cwsg iechyd yn llawn tawel- wch. Yn y cyflwr hwn yr ydym yn huno am oriau yn nghyd mewn gor- phwysdcr didoredig, ac anian yngwledda ar ei moethau, yn adnewyddu ei grym colledig, ac yn gosod heibio adgyfnerth- iadau newydd erbyn y dydd dyfodawl. "Wedi cyflawni hyn diflana cwsg fel turth o flaen niwl y boreu,—gwendid a ganlynir gan nerth, a'r holl gynneddf.iu corfforawl a meddyliawl a adgyweiiir. Yn y cyflwr dedwydd hwn, dyn a deb- ygola fwyaf i'r un hwnw yn mha un y daeth allan o law ei Greawdwr,—yn îr, yn hynawf, ac yn egniol ; yn ymlawen- hau fel cawr i redeg gyrfa, a'i holl'aw- yddau mwyniant roewn llawn awch, a'i holl deimladau a'i gynneddfau yn barod i ymroddiad. 29 I'r gwrthwyneb idd y darlun hwn y mac cwsg afiechyd. Y mae yn íyr, yn grydawl, yn anadfywiol, ac yn aflonydd- edig gan freuddwydion dychiynllyd a thiallodus. Y mac y cut (pulse) yu gynhyrfiedig, ac, o hcrwydd cyffroadau gewynawl, y mae osgoiadau mynych o'r cyhyr yn cymcryd lle. Yr hunllef a ymwasga arnom fel ymgnawdoliad gwae; ac amgyffred, wedi ei anmhuraw trwy ei chysylltiad âg anhwyldeb an- sawdd, sydd yn crwydro o amgylch go- rorau ardwll dychryn, yn dal cyflafarcdd ag uffern a'r bedd, ac yn taflu cysgod gwelw angau dros gysuron y bywyd dynol. " Y nos," ebe un bardd, " yw amser cwsg," ac y mae yn ddiddadl fod tawel- wch tywyllwch mor naturiol yn erlyn i orphwysder, ac ydyw ardderchawgrwydd dysgleirdeb nawn yn dangos i ni ein dy- ledswydd o fod gydaein galwedigaethau. Mewn ffaith, y mae yn bodoli rhyw gydr ymdeimlad dyeithr, ond sicr, rhwug cyf- nodau dydd a nos, achyflawniad swydd- ogaethau neillduul yn ystod y cyfnodau | hyn. Hawdd dangos mai nid effeithiau ymarferiad yn unig ydyw hyn yna. Y mae holl anian yn deffro gyda chodiad haul,—yr adar a ddechreuant ber-bync- iaw eu cân blygeiniawl ; y gwenyn i er- lyn eu diwydrwydd gyda hyfrydwch try- darawl; y blodau per-arogl—addurnedig à holl liwiau glwysion gwawl, a ddad- blygant eu dail moethus amryliw, ac yn gwridiaw, fel geneth brydferth, led-