Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OR CYMR CYLCHGRAWN MISOL AT WASANAETH CERDDORIAETH YN MYSG CENEDL Y CYMRY; CYHOEDDEDIG DAN NAWDD * PRIF CERDDORION, CORAU, AC UNDEBAU CERDDOROL Y GENEDL. Rhif. 135. MAI 1, 1872. Pris 2g.—gydcCr post, 2^c. AT BIN GOHEBWYB. -Byddwn ddiolchgar os bydd i bob gohebiaeth i'r Cerddor gael ei hanfon i ni, ifod mewn llaw ar neu eyn yr 20/ecî o'r mis, yn syml fel hyn :—Bev. J. Boberts, Fron, Camarvon. CYNNWYPIAD. TUDAI,. Cystadleuaeth Gefn Mawr............ 33 Cystadleuaeth Rhostryfan............. 34 Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri .. .. .. ... 85 Cyfarfodydd Canu Crefyddol........... ..85 At ein Gohebwyr ........ ........ 35 Tysteb Mr. John Ambrose Lloyd .......... 36 Mr. W. A. Williams (Gwilym Gwent) ......... 86 Amrywion ......... ,........... 86 Ystafell yr Hen Alawon ............ 87 Hanesion Cerddorol.............. 87 CYSTADLEÜAETH CEFN MAWR, Nadolig, 1871. Ton Gynulhidfaol M. 6.4.6. (M. 35.) Yn ol geiriad y testyn hwn, yr ydym i ymofyn am Don Gynulleidfaol, nid ar benill, nac ar fesnr, ond ar Emyn neillduol; y mae genym, gan hyny, i farnu, nid yn unig pa un ydyw y Don oreu í'el cerddoriaeth, ond hefyd pa un ydyw y fwyaf gyfaddas i'r Emyn ar ba un y cenir. Yr ydym yn caelfud yr Emyn yn cynwys athrawiaeth mewn profiad, yn mha un y dangosir cyflawnder gras y Gwar- edwr ar gyfer holl angen y pechadur sydd yn canu. Ton gymedrol, gan hyny, ydyw y f'wyaf cyfaddas. Gall f'od yn y cywair lleiaf, os heb fod yn drymaidd a dwys; a gall fod yn y cywair mwyaf' os heb fod yn dra gorfoledd- us a by wiog. Yr ydym wedi derbyn 22 o Donau; a dywedwn air yn fyr, ac os gallwn, "at y pwrpas," am bob un o honynt. 1. 2. Ivan Mawrth ac Wyr i Samuel.—Y mae rhai adranau da yn yr alawon hyn, ao eraill yn cynwys ys- gogiadau a'u gwnant yn gwbl annerbyniol. Gwallus iawn ydyw y gynghanedd. Eled yn mlaen ; y mae di- gon o le. 3. 4. Mary a Perorydd Glan yr Afon.—Un ydyw awdwr y ddwy don yma eto. Y mae alaw " Mary " yn rhwydd a llithrig, ond yn rhy gyffredin. Mae y ddwy adran gyntaf yn yr eiddo "Perorydd" yn rhy debyg i Tytherton. Diafael ydyw yr adranau eraill. Ceir yma amcan lled dda am gynghaneddu ; ond nid ydyw yr awdwr wedi ymarfer digon eto i fedru cynghaneddu yn yn gywir, amrywiaethol a destlus. 5, 6. Un Ieuanc a Rehoboth,-—Dwy don gan un cyf- ansoddwr eto. Y mae ymgais lled dda i'w ganfod yn yr alawon; ond ar y cyfan, mae yr adranau yn rhy undon- yddol. Mae y gynghanedd yn syml, ond nid yn hollol gywir. 7. Dafydd y Gareg Wen.—Dylasai yr ysgrifenydd gymeryd papyr a'r llinellau yn tnhellach oddiwrth eu gilydd, neu wneyd y nodau yn llai. Cawsom draffenli fawr i wneyd allan beth oedd ei feddwl mewn rhai man- au. Y mae gradd helaeth o deimlad yn yr alaw; mae y cynghaneddiad hefyd yn amrywiaethol, a lled gywir ar y cyfan, ond nid yn hollol gywir. Aneffeithiol ydyw cynghaneddiad yr adran olaf. O ran nodwedd, mae y don yn rhy alarus i'r Emyn. 8, 9. Antonio a Lambert.—Dwy eto gan un cyfan- soddwr. Rhy undonyddol ydyw y Tonau hyn. Mae yr eiddo "Lambert " yn enwedig felly. Mae y gyng- hanedd yn lled gywir, ar y cyf'an; ond nid yn hollol felly. Yn yr eiddo "Antonio," yn banau 10, 11, y mae 5edau dilynol; ac nid yw yr ail gord, 4—6 ar y 3ydd, yn gywir. Yn ban 15, dyblir y 4ydd, yn y cord 4—6, pryd y buasai yn well ychwanegu yr 8fed. Nid ydyw ysgogiad y tenor a'r alto yn banau 14, 15 yn dder- byniol. Ceir yr un diffyg yn ban 24 ag a nodwyd yn ban 15. Diffyg hefyd yw fod y tair dosran ddiweddaf yn dechreu gyda'r un cordiau a'r un ysgogiadau yn y bas ; a cheir cord 4—6 ar y 3ydd eto yn anmhriodol yn ban 37. Yn nhon " Lambert," ban 2, gwell fuasai ychwan- egu y 3ydd yn y cord laf nag ychwanegu yr 8fed. Yn ban 14, y mae 8fedau dilynol, a öedau yn ban 20, ac 8fedau yn banau 24, 25. 10. Un ar ei daith.—Ton dda, o ran alaw a chynghan- eddiad ; ond nid da ydoedd newid y corfaniad yn y 5ed a'r 6fed dosran ; ac y mae yr holl gyfansoddiad yn ym- gais rhy gaeth at ddarlunìo y penill cyntaf o'r Emyn yn unig. Mae y gynghanedd yn syml ac amrywiaethol. Buasai yn well heb y gau berthynas a geir yn y ban olaf ond dau. 11. Albert.—Ton dyner yn y cywair lleiaf, yn cynwys graddau canmoladwy o amrywiaeth a theimlad. Y dos- ranau tlotaf o honi yw y tair olaf. Dangosir llawer o fedr a chwaeth yn y cynghaneddiad. 12. 13.—Auber a Cymro.—Dwy don gan un cyfan- soddwr eto. Tonau symlion, chwaethus, a da, wedi eu gweithio gyda llawer o ddeheurwydd a chwaeth. Ond nid ydynt yn cynwys dim neillduol. Diangodd öedau dilynol unwaith gan " Cymro." Heblaw hyny, uid oes un gwall yn y cynghaneddiad. 14. Gwilym Glan y Mor.—Dechrena y don hon yn rhagorol; ac y mae rhai o'r dosranau yn yr ail ddiwedd- ran yn dda; ond y mae y dychweliad i'r cyweirnod gwreiddiol yn rhy swta yn y ddosran ddiweddaf. 15, 16, Yl.— Caradog, Sphor, Luther.—Yr ydym yr; carogymeryd os nad yr un ydyw awdwr y tonau hyn„