Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3»"" HENAINT ANRHYDEDDUS. " Ac wele yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon, &c. Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanuel,.o lwyth Aser r hon oèdd oedranus iawn, &c.—Luc ii. 25—38. UN ŵ pethau imwyaf hynod yn y cyssylltiadau hyn ydyw yr änrhydedd a esyd yr Ysbryd Grlân ar henauat duwiol, yn mhersonau Simeon ac Anna, Yr henal- gwyrhyn yw yr efengylwyr cyntaf o blith dynion i gyhoeddi mawredd a gogoniant yr Arglwydd Iesu Grist ar ol Ei ymddangosiad yn y cnawd. Buom yn ceisio cael allan beth allai fod yn cyfrif dros ddewis rhai oedranus, ac un o bob rhyw, i gyflawni y fath wasanaeth anrhydeddus. Nis gwyddom, os nad yn un peth—gwneud i ffwrdd a'r syniad digalon ag y mae hen bobl dda yn rhy dueddol i'w goleddu, sef fod eu gwasanaeth a'u defnyddioldeb hwy ar ben yn Eglwys Dduw. Ofnwn fod ar y mwyaf o ymgais, yn neillduol yn yr oes hon, yn yr eglwysi i ddynwared y byd, o wthio hen bobl o'r ffordd, a'u trafod fel rhai nad oes mwyach eu heisiau, ac mai dynion ieuainc yn unig sydd eisiau—dynion ieuainc i fyny a'r oes. Onid oes berygl i hyn fod yn arwyddion o farn ar wlad, yn naturiol a moesol? Darllener yn fanwl, a chyda dwys ystyriaeth, y dar- luniad a roddir yn. Hyfr; y prophwyd Bsaiah iii. 1—5. Yr oedd dwy ran o dair o öes ;Moses wedi pasio cyn i Dduw ei alw at waith mawr ei fywyd; a^ John^Knox uwchláw deúgain cyn dringo o'r divvygiwỲ mawr hẃnw i bwlpud. t -^ Mae Brem^lSeiẁaiC Ârgìwydd ÿ" wiiiíftB. ysbrydol yn wahanol i ddynion :yn. hynf . Mae dyníon *sydd î'n goiwg ni wedi eu cornelu, a'u. gwarchod, fel nädájtóit állan, gan lesgedd henaint, neu nychdöd'corphorol, yn çaëf^u defnyddio i ddysgu gwersi i rai sydd iéûengach, iachach, a mwy dibrofiad. Dyma Anna, yn rhy hen i ryned allan o'r deml—yn byw mewn rhyw ystafell gys- sylltiedig a hi—er hyny, yn molîanu yr Arglwydd, ac yn ei "wasanaethu mewn ymprydiau a gweddiau ddydd a nos"; ac yr oedd gan yr hen chwaer oedranus hon ffordd neillduol o effeithiol i wneud hyny. Cyfeirir ati ,fel un yn disgyn o lwyth Aser, llwyth nad oedd unrhyw neillduolion yn perthyn iddo fel i'r rhan fwyaf o'r llwythau ereill yn Israel. Nid ydym yn darllen am na gwron, na brenin, na phrophwyd, o lwyth Aser, nac unrhyw wrhydri a gyflawnodd; ond yr oedd yn perthyn iddo un addewid oedd wedi bod o gysur a chynhaliaeth mawr iddó yn ei ddinod- edd,—" Canys megys dy ddyddiau y bydd dy nerth,"—ac an- mhosibl fuasai cael neb ar y ddaear yn well enghraifft o'r gwir- ionedd nag Anna y brophwydes o'r llwyth hwnw. Yr oedd wedi cael byw yn ddigon hir, a myned drwý ddigon o brofedigaethau bywyd, i allu dwyn tystiolaeth effeithiol o'i gwirionedd a'i gwerth. Gallasai ddywedyd, ac yr oedd yn dweyd mewn effaith, wrth yr