Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1878. ttjpral êúx g §gẁjrîr. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, LLANBBYNMAIR. [Pregeth a draddodwyd yn urddiady Parch. T. J. Rees, Carno, Meh. 22ain, 1876.] " Yn cj-nal gair y bywyd; er gorfoledd i rai yn nydd Crist na redais yn ofer, ac na chymar- ais boen yn ofer."—Phil, ii. 16. Ymddengys fod yr eglwys yn Philippi yn un o'r rhai puraf a rhagoraf ei chymeriad yn mhlith yr holl eglwysi apostolaidd ; oblegyd nid yw yr apostol yn y llythyr hwn ati yn beio nac yn achwyn ar ddim ynddi, fel y mae yn gwneud yn ei lythyrau at rai o'r eglwysi ereill, yn enwedig eglwys Corinth ac eglwysi Galatia. Ond er nad oes unrhyw gŵynion neillduol yn yr epistol, eto y mae ynddo lawer o ocheliadau a chynghorion pwysig a gwerthfawr. Ac wrth graffu aryr anogaethau sydd yma at wahanol rin- weddau a dyledswyddau, fe welir yn amlwg pa fath rai a ddylai proffes- wyr crefydd fod. Ac yn mhlith pethau ereill, fe ddangosir y dylent fod yn rhai dirwgnach, digecraeth, diniwed, neu ädigorn fel y mae y gair yn arwyddo, a diargyhoedd, fel y byddont yn blant difeius i Dduw, neu fel y profont yn eglur eu bod yn blant felly i Dduw, drwy eu bod mor deb/g iddo o ran eu hanian a'u hysbryd ; ac fel y byddont " yn dysgleirio megys goleuadau yn y byd." Dylai ein cymeriad fod yn bur a santaidd, fel y byddo eiu crefydd mor hawdd ei gweled ág yw goleuni llachar yn nghanol tyw- yliwch y nos. Adrodda Mr. Moody am ddyn dall, mewn dinas yn America, yn cario Uusern ddysglaer ar noson dywell, a phan y gofynwyd iddo pa ddyben oedd i ddyn dali fel efe gario lamp, atebodd ei fod yn ei chario er mwyn rhoddi goleuni i ereill, rhag iddynt faglu ar ei draws. Felly y dylem ninau ofalu am i'n crefydd fod yn amlwg a dysglaer, ac am i'n "goleuni lewyrchu gerbron dynion," rhag i ni fod yn dramgwydd ac yn rhwystr i ereill, a throi y cloff allan o'r ffordd. Fe dybir fod yr ym- adrodd, " Dysgleirio megys goleuadau yn y byd," yn yr adnod o flaen y testyn, yn cyfeirio at y goleudai sydd i arwain a chyfarwyddo Hongau yn y tywyllwch a'r dymhestl i'r porthladd a ddymunent. Ac fel y gallllong °didog, a'r holl fywydau gwerthfawr fyddont ar y bwrdd, gael ei cholli drwy ddiffyg goleuni yn y goleudy, felly hefyd y gall pethau mwy gwerth- fawr na'r llongau ardderchooaf a'u llwythi drudfawr, sef eneidiau ein 42