Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GAN Y PARCH. T. REES, D.D., ABERTAWE. [Traddodwyd yr Anerchiad canlyuol o'r Gadair yn Nghynadledd y Gymaufa Dde-orllewinol, yr hon a gynaliwyd jrn Rhydybont, Mehefin, 13eg a'r líeg, 1877, gan Dr. Rees ; ac argreffir ef yn y Diwygiwr ar gais y Gynadledd.—Gol.] Mae eiti Hiachawdwr yn beio Iuddewon ei oes ef am na fedrent arwyddion yr amserau, ac y mae yr ysgrythyr yn crybwyll yn gymer- adwyol feibion Issachar, yn amser Dafydd, am eu bod yn medru deall yr amseroedd, i wybod pa beth a ddylai Israel ei wneuthur. Y mae gan bob oes ei nodweddion neillduol o ran profedigaethau, pechodau, diffygion, manteision, a rhagoriaethau. Heb ddeall arwyddion yr amserau, nis gallwn yn effeithiol ochelyd y profedigaethau, ymladd â'r pechodau, cyf- lawni y diffygion, defnyddio y manteision, nac efelychu y rhagoriaethau a nodweddant ein hoes. Nodi allan arwyddion bygythioi ac addawol yr amserau presenol yn eu perthynas â chrefydd, ac yn neillduol yn eu perthynas â ni fel enwad crefyddol, yn nghyd a'r dyledswyddau agyfodant oddiar yr arwyddion hyny, fydd yr hyn yr ymdrechaf gyfeirio sylw ato yn y papyr hwn. Nis gallaf lai nag edrych ar y pethau canlynol fel arwydd- ion tra bygythiol: — 1. Ansefydlogrwydd bam ar brif athrawiaetliau Cristionogaeth. Mae dadleuon poethion wedi bod yn cael eu dwyn yn mlaen er ys rhai canrifoedd rhwng Calfiniaid ac Arminiaid, ac ychydig gyda thri ugain mlynedd yn ol cyfododd dadl fawr yn mysg yn Annibynwyr a'r Bedyddwyr, rhwng Uchel ac Is-galfiuiaid, yr hon a barhaodd i raddau mwy neu lai am ddeng mlynedd ar ugain. Ond nid oedd un o'r pleidiau yu y dadleuon hyny yn cyoyg amheu un o brif athrawiaethau yr efengyl, megys Duwdod ac Iawn Crist, cyfiawnhad trwy ffydd, anfarwoldeb yr enaid, cosbedigaeth dragy- wyddol yr anedifeiriol, ac ysbrydoliaeth yr ysgrythyrau. Hyd yn ddiweddar yr oedd y personau a amheuent y pynciau hyn yn Undodiaid neu yn Ddeistiaid proffesedig. Yn awr y mae lle i ofni fod amryw ddyn- Jon o dalent, dysg, a dylanwad, yn mysg yr enwadau a ystyrir yn union- gred, yn neillduol yn mysg yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn dal ac yn taenu syniadau ar yr athrawiaethau sylfaenol yma a ystyrir gan fwyafrif dirfawr yr enwadau hyn yn gyfeiiiornadau dinystriol. Mae gan bob dyn ûawl i farnu drosto ei hun ar bob pwnc, heb íod yn gyfrifol i neb ond i'w