Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1877. GAN Y PARCH. T. G. JONES, GWERNOGLE. " Hwn yw fy anwyl Fab."—Mat. iii. 17. Mae Crist fel Mab Duw yn cael lle amlwg yn nysgeidiaeth y Beibl, yn enwedig yn y Testament Neŵydd. Daeth llef o'r nef dair gwaith, gan gyhoeddi mai Mab Duw oedd y dyn Crist Iesu, sef geiriau y testyn, a phan arfynydd y gweddnewidiad (Mat. xvii. 5), yn nghyd â phryd y dywedodd, "0 Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef (yn dywedyd), Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn." (Ioan xii< 28, &c.) Golyga y term Mab Duw y berthynas a fodola rhwng y Tad a'r Ail Berson yn y Trindod. Mae y Messia yn Fab Duw mewn ystyr hollol wahanol i bawb arall. Ni olyga yr enw israddoldçb na chreadigaeth, oblegyd mae yn ogyfuwch â Duw, "Ni thybiodd yn draferfod yn ogyfuwch â Duw ; " ac y mae cyn pob creadigaeth, " Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw." (Ioan i. 2.) Mae'r angel yn fab Duw, ond yn israddol iddo mewn nerth, doethineb, a dechreuad—nid yw erioed—creadur yw. Mae dyn yn Fab Duw, ond yn fwy israddol na'r angel, oblegyd pan ymgnawd- olodd y Mab cafodd ei wneud ychydig yn is na'r angelion, er dyfod yn ddigon isel i fod yn Waredwr i ddynion. Mae yr anifail, ì'e, yr ftbwydyn bach yn fab Duw, ond yn llawer mwy israddol na hyd y nod dyn. Mae yr angel, dyn, a'r abwydyn yn feibion i Dduw, ond ar raddfa wahanol i'w gilydd, ac yn hollol wahanol i'r modd y gelwir un genedlaeth o ddyn- ion yn blant cenedlaeth arall. Felly, gan fod yn wybyddus i ni fod y gair Jtfab yndynodi gwahanolberthynasau, megyspethau creuedig ganDduw— angel, dyn, ac anifail; yn nghyd â bodau cenedledig gan ddyn, megys Saul fab Cis, a Iesu fab Mair, gall yr enw Mab Duw ddynodi ac ar- ddangos mewn modd egwan y berthynas a^os, ond anegboniadwy, a fodola rhwng y Tad a'r dyn Crist Iesu. Mae perthynas y Tad a'r Ail Berson yn y Trindod yn anesboniadwy i ni, am na wyddom ddim am dano ond trwy y dadguddiad dwyfol, ac nid ywy dadguddiad hwnw yn dyweyd pa fodd y mae Crist fel Mab yn gwahaniaethu oddiwrth ereill, ond dywed ei fod yn anghreuedig, gogyfuwch, a chyd-dragywyddol â'r Tad. Ein golyg-