Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÄK Y DIWYGIWR / < ... IONAWR, 1871. GAN Y PARCH. "W. JENEINS, PENTRE-ESTYLL. 0 bob gwrthddrych, Duw yw y rhyfeddaf. Efe yw canolbwynt pob mawredd a chrynodeb anfeidrol pob rhyfeddod. Mae yn rhyfedd yn ei hanfod, rhyfedd yn ei natur, rhyfedd yn ei briodoleddau a'i berffeithion, a rhyfedd yn ei weithredoedd. 0 ran ei hanfod, y mae yn dragywyddol ac anfeidrol, hunanfodol ac annibynol, anweledig a digyfnewid; o ran ei natur, y mae yn ysbryd pur, digymysg, ac anfarwol; o ran ei briodol- eddau, y mae yn hollalluog, hollbresenol, a hollwybodol; o ran ei ber- ffeithion, y mae yn gyfiawn, santaidd, geirwir, doeth, a da; ac o ran ei weithredoedd, y mae yn "rhyfedd yn ei holl ffyrdd." Bu cyfnod pan nad oedd neb na dim yn bodoli ond Duw; pryd nad oedd un elfen na deddfyn gweithredu, yr un awel yn chwythu, yr un glaswelltyn yn tyfu, yr un ffynon yn tarddu, yr un seren yn y nen yn gwreichioni, yr un dyn nac anifail ar y ddaear yn anadlu, na'r un seraff yn y nef yn tynu ei fysedd claerwyn dros danau tynion ei delyn—dim ond un Bod anfeidrol yn bres- wylydd yr annherfynol wagle, " Cyn creu cylchoedd bydoedd bán, Ion eisteddai 'i hunan." Wedi dygiad creaduriaid deallawl i fod, cyfeiriasant eu sylw myfyrgar yn benaf a mwyaf neillduol at y Duw anfeidrol a'u gwnaeth. Diamheuol fod y thronau a'r arglwyddiaethau, y tywysogaethau a'r meddianau, yn nghyd â'r gwahanol raddau o wrthddrychau deallawl a greodd Duw, yn syllu gyda dyddordeb, difyrwch, ac adeiladaeth santaidd ar ogon- iant y greadigaeth fawreddog. Tybia rhai eu bod yn sefyll yn ymyl gorsedd eu Tad pan gymerodd ei safle yn nghanol y gwagle mawr ac y dywedodd gydag awdurdod ddwyfol y gair bydded, a'u bod yn llygad-dystion o rüthr ofnadwy yr heuliau a'r planedau o groth dywell dyddimdra, a'u bod yn eu gweled yn disgyn yn gafodydd mawrion, ac yn sefyll yn daclus a threfnus yn y gwahanol gylchoedd apwyntiodd Duwdod iddynt. Gwyddant beth yw rhodio ar hyd y ffyrdd llaethog, cyfeirio eu camrau ar hyd yr wybr- enau gleision, a chymeryd eu safle ar binaclau Uawer cyfundraeth. Mae anian yu ei holl amrywiaeth yn faes agored o'u blaen; ac o ymyi gorsedd