Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAI, 1870. gr ^lÉMf a <Sftraîi$r gr %Itop. GAN Y PARCH, R. W. DALE, M.A., BIRMINGHAM. (Parhad o tud. 73.) Ond nid yw yr Ysbryd yn trigo yn y weinidogaeth yn unig; yr holl eglwys yw teml yr Ysbryd Glan. Mae M. Comte, yn ei adolygiad rhy- feddol ar ddylanwad y gyfundraeth Babaidd ar fywyd a meddwl Ewrop, wedi sylwi fod honiadau y Babaeth wedi cyfyngu yr hawl i ysbrydoliaeth. Efe a welodd yn eglur y gall pob Cristion, yn ol dysgeidiaeth Crist a'r apostolion, dderbyn goleuad goruwchnaturiol yn gystal a nerth goruwch- naturiol oddiwrth Ysbryd Duw; ac ymddangosai iddo ef fod y rhagor- fraint fawr a roddwyd ar y cyntaf i bob Cristion a'r holl eglwys wedi cael ei gorthrechu a'i llethu gan ffugiadau chwyddedig Pabau, cynghorau, ac offeiriadaeth neillduedig, yn un o'r buddiantau hynod a roddwyd i'r byd Cristionogol gan ddadhuddiad rhyfeddol yr eglwys Babaidd yn y canol oesau. Mae gwir athrylith Protestaniaeth, medd efe, yn lle darlethu yr hawl i ysbrydoliaeth, yn ei hestyn i bawb, a thrwy gydnabod y gallu dir- geledig yn mhob Cristion i dderbyn gôleuni uniongyrchol o'r nefoedd, mae efe wedi dwyn i mewn i fywyd gwleidyddol, cymdeithasol, a dealloí gwledydd cred, allu aflonyddol, yr hwn, oni buasai dadfeiliad cydfynedol pob ffurf o frydffodiad a chred Dduwinyddol, allasai fod wedi dyrysu Ewrop mewn annhrefn cymysglyd. Nid oedd dim bai ar graffder syl- faenydd yr Athroniaeth Bendant. Mae mwy o achos ofni gan y rhai sydd yn credu gydag ef, fod "dadhuddiad graddol dynoliaeth" yn cael ei beryglu gan ffydd fywiol yn y goruwchnaturiol oddiwrth "ysbryd rhydd" yr eglwysi Protestanaidd nag oddiwrth gyfansoddaeth cryf Pabyddiaeth. Mae y gwahaniaethau afrifed rhyngom ni a Ehufain yn cael eu cydgasglu yn yr un ddadl hon. Mae Rhufain yn ailhoni ei hawliau gyda mwy o yni ac eofndra na chynt; yr ydwyf yn gofyn eto a ydym ni yn dal ein ffydd gydag egni a chysondeb cyfartal ? Yr ydym ni yn credu fod eglwys Crist yn greadigaeth Ddwyfol, ac nid cymdeitha» arwynebol yn cynwys personau yn dal yr un gred ac wecü 17