Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAI, 1869. Jwwrtlj ì êẁgìrtop Jltjjwfo g §nk GAN Y PARCH. S. ROBERTS. Y mae bydoedd lawer wedi cael eu ereu, a bernir eu bod yn îleôedd cyrchfa, os nid yn lleoedd preswylfa, lluoedd o ddeiliaid llywodraeth y Crewr. Yn eu canol, y mae ein byd bychan ni, yn un o'r rhai rawyaf hyaod o honynt oll. Cododd y gelyn fanergwrth- ryfel ynddo ar ei gychwymad ; ac i'n byd ni y daeth Tywysog y bywyd i ddatod gweithredoedd y gelyn. Gwnaed ein byd iseíni yn faes cangen bwysfawr o gyfryngdod Iesu. Ar ein daear ni y cyfìawnodd ei weinidogaeth—y gwnaeth iawn i lywodraetb ei Dad—y gorchfygodd angeu—yr enillodd allweddau y bedd—ac yr agorodd fíbrdd i achub pechadur. Yn ein byd bach ni y bu y patrieirch yn cynal eu colegau, ac y bu y prophwydi yn cadw eu hysgoìion. Yma y buont yn efrydu ac yn pregethu cynlluniau mawrion doethineb, cyfiawnder, a chariad y Duwdod. Yn ein byd ni y bu Seth, ac Enoch, a Noah yn pregethu cyfíawnder i'w cymydogion anffyddiog—-y bu Abraham, ac Isaac, a Jacob yn esbonio bywyd ffydd i'w cydbatriarchiaid, ac yn gorchymyu i'w tylwythau lluosog ar eu hol gadw o honynt ffordd yr Arglwydd. Ýn ein byd ni y bu Job, a Jacob, a Joseph yn esbonio doethineb a daioni rhagluniaeth yr Ior—y bu Moses a Samuel yn egluro ordinhadau y nefoedd—y bu Dafydd a Solomon yn cyfansoddi eu cerddi, e'u gweddiau, a'u pregethau—y bu Elias ac Eliseus, ae Esaiah a Daniel, ac Ezra yn sefyll dros addoliad eu Duw, ac yu cymhell eu cyd-ddynion i barchu ei allorau. Yu ein byd ni y bu yr efengylwyr yn adrodd ac yn ysgrifenu banes Iesu; ac y bu yr