Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1868. YR YMDRECH FOESOL. w Gwyliwch, sefwch yn y ffydd ; ymwrolwch, ymtgryfhewch,"—PAutc GÂN WYN SILIN. Y mae'r gair gwylio yn rhagdybio perygl. Y mae y Oristipn mewn perygl. Anereh Cristionogion y mae yr apostol yn y geiriau uchod. Gan fqd y Cristion mewn perygl, y mae yn ofynol iddo fod yn effro ac yn gwylio er bod mewn cyflwr o ddyogelwch. Heb ragymadroddi dim, awn yn mlaen i seilio yçhydig o sylwadau ar dair gosodaeth. I. FOD GWYLIADWRIAETH FOESOL YN OFYNOL ER DYOGELWCH BYWYD YSBRYDOL YR ENAID. " ŵwyliwch." Y mae gelynion y Cristion yn greulon, yn gryfion, a lluosog. Y mae y BeiW yn èu dosranu i dri gelyn mawr—y byd, y cnawd, a'r diafol. Enwau ty wysogaidd yw y rhai hyn ar y prif elynion; eithr y mae ganddynt luoedd o ganlynwyr ufydd sydd yn sychedig am waed plentyn Duw. Ond ni fanylwn, eithr sylwn ar y prif elynion. Y mae'r byd yn elyn cryf a chyfrwys. Y mae ei anrhydedd a'i olud fel dau ellyll rhagrithiol, yn ceisio arwain a denu y Cristion i golledigaeth. Ac 0! y diwedd ofnadwy sydd yn dysgwyl y rhai sydd yn cymeryd eu twyllo ganddynt. " Y rhai sydd yn ewyllysio yìngyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth, a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinystr a cholledigaeth." (1 Tim. vi. 9.) "G-wyliweh a gweddiwch, M nad eloch i brofedigaeth." Y cnawd sydd elyn cryf arall a thra pheryglus. Pe byddai genyin elyn yn America, ni byddai arnom lawer o'i ofn. Po byddai genym un yn Nghymru, byddai arnom fwy o'i ofn. Pe byddai ein gelyn yn yr tín ardal a ni, byddai ei ofn yn ein blino. Ond pe byddai ein gelyn yn yr un ty a ni, ac yntau yn un marwol—ar yr un aelwyd, ac yntau a chleddyf yn ei law, yn barod i'n trywanu; yn wir, parai yr oíwg arno i ni arswydo a dychrynu yn fawr. Dyma dy elyn di, 0 ! Gristion, ar yr aelwyd—gartref yn wastad—^yn dy galon, " Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg diobaith ydyw ; pwy a'i hedwyn ?" Y mae y " drwg diobaith " yna—llygredigaeth ein natur—yn rüy barod i gyfarfod mewn telerau da a themtasiỳnau allanol; -ac felly y mae lhioedd cedyrn yn syrthio. Onid peth chwith yw: gweddio ar Dduw am ein cadw'rhag drwg ein calon ein hunain ? Cofia, blentyn y rref, fod gelyn gỳdia thi bob 21