Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 359.] AWST, 1865. [Cri\ XXX. Swyddogaeth Eglwysig, ac Undeb Eglwysi Cynnlleidfaol a?a gilydd, 311 gyson a'u Rhyddid. GAN Y PARCH. D. HUGHES, A.C., TREDEGAR. (Parhad o tud. 261, 1864.) "Wedi cymeryd sylw yn barod yn y Diwygiwr am Mehefin, Gorphenhaf, a Medi, 1864, beth a olygir wrth eglwys Annibyiiol, a pheth a ddeallir wrth ei swyddogaeth, a bod y 6wyddogaeth hono yn gyson a rhyddid yr aelodau, yr ydys yn awr yn dyfod i sylwi fod undeb y cyfryw eglwysi a'u gilydd yn hollol bosibl, ac yn hollol unol a'u rhyddid. Ac yma eto, er mwyn eglurder, gallai y byddai yn fuddiol i gymeryd sylw penodol beth a olygir wrth y rhyddid a'r undeb eglwysig hwn a olygir. Am y rhyddid hwn, gellir sylwi ei fod yn gwisgo dau arddull gwahanol, sef rhyddid yr aelodau, y rhai a gyfansoddant yr eglwysi, bob un wrthi ei hun; sef, fel y sylwyd eisoes, " eu rhyddid cymdeithasol ag sydd yn perthyn i aelodau pob cymdeithas rydd a gwirfbddol arall, sef fbd ganddynt hawl i osod allan eu meddyliau, defnyddio eu dylanwad, a rhoddi eu pleidlais yn nhrefhiant yr holl achosion perthynol i'r eglwys." Yr arddull arall o'r rhyddid hwn, perthynol i eglwys Annibynol, yw ei rhyddid i weithredu fel cymdeithas grefyddol, yn ol ei barn a'i chydwybod, mewn cynal a threfnu ei hachos- ion ei hun, heb bwyso ar neb arall, nac ystyried ei hun yn gyfrifol neu yn atebol i un pnrson, na llys, nac i un penderfyniad o eiddo un gynadledd pa bynag yn nglyn ag un math o gyfarfod undebol, sirol, na chymanfaol, nac i un awdurdod arall y tu allan iddi ei hun, ond yn unig i awdurdod Iesu Grist ei hun, pen yr eglwys, fel ei gosodir ef allan yn y Testament Newydd. Mae y rhyddid hwn yn anhebgorol, cyn y gellir ystyried un gymdeithas neu eglwys yn annibynol. Am yr hyn a ystyrir fel undeb rhwng gwahanol eglwysi Annibynol a'u gilydd, dylid sylwi mai nid un math o ganoleiddiad fcentrali%ationJ ydyw; hyny yw, nid fod y gwahanol neu yr oll o'r eglwysi Annibynol, fel y cyfryw, yn cyfansoddi rhyw un- peirianwaith mawr, er ateb rhyw ddyben neu ddybenion penodol, a bod y naill eglwys a'r llall o honynt megys yn ffurfìo rhyw ran benodol megys aelod o'r corff, neu y peirianwaith hwnw : ond fod pob eglwys Annibynol megys peirianwaith perffaith ynddi ei hun. Ac eto ar yr un pryd, trwy fod yr un rheol ganddynt oll i weithredu wrthi; yr un ysbryd i'ẁ cynhyrfu a'u cynorthwyo yn eu hymdrechion; a'r un amcan neu amcanion mewn golwg ganddynt er eu sicrhau; er yn llawer mewn rhifedi, yn wahanol o ran eu hamgylchiadau, ac yn annibynol ar eu gilydd, eto eu bod mewn 29