Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 33Ò.] AWST, 1863. [Cyf. XXYIII. RHYFEL. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLANELLI. Hanes rhyfel yw hanes y byd. Mae hyny yn wir mewn ystyr anianyddol, ddeallol, foesol, a chymdeithasol. Nis gwyddom beth yw oedran y ddaear; rhifir blynyddoedd ei hoes nid â miloedd ond â miliynau, eto swn rhyfel sydd arni o gyfnod cyntaf ei bodolaeth hyd y dydd hwn. Mae ol traed trymion ystormydd pan yn brysio ar eu cylchdeithiau dinystriol, a hanes brwjTdrau lluosog a dychrynfawr llu o nwyon, dwfr athân, tir a môr, wedi eu cerfio yn ddwfn a'u croniclo yn gywir ar ystlysau llydain y creig- iau celyd. Weithiau byddai y galluoedd tanddaearol yn taflu mynydd- oedd fel mân beleni o ganol cyfandir i ganol yr eigion, a phrydiau ereill yn gwthio cyfandir i fyny yn nghanol yr eigion, nes byddai y dwfr yn rhaiadrau chwyrnwyllt yn gorlifo y tir sych. blaenorol. Bu gwaelodion iselaf Môr y Werydd a'r Mòr Tawelog yn fynyddau uchel yn gwthio eu penau balch i blygiadau y cymylau am gysgod, ac yn gwisgo talaith o niwl gwyn o gylch eu harleisiau ; a bu penau coronog yr Himalaya, yr Alps, a'r Andes, yn isel dan y don, a milmyrdd pysg y dyfnder mawr yn chwareu yn nwyfus ar eu corynau. Felly bu rhyfel anianyddol hir ei bar- had a dychrynllyd ei frwydrau, cyn i ffìniau presenol tir a niôr, mynydd- oedd a gwastadeddau, bryniau a broydd, gael eu penderfynu. Mae hen ryfel hefyd yn y byd rhwng deall a deall. Bu maes y celfau a'r gwyddorau, athroniaeth a duwinyddiaeth, ganwaith yn faes y gad. Mae gwyddor yn dysgu hynyna, meddai un; mae hyn yn wirionedd mewn athroniaeth, meddai y llall; a dyma y gwirionedd mewn duwinyddiaeth, meddai rhywun iach ei ffydd a selog ei ysbryd ; ond gyda'u bod hwy yn darfod llefaru yr oedd ereill yn ateb gan ddywedyd, " Camsynied yw y cwbl." A digon tebyg mai fel yna y parha eto nes byddo y byd wmredd yn gallach nag ydyw. Deehreuwyd y rhyfel moesol yn y nef gan Satan a'i angelion. Ar hyny chwyrndaflwyd ef a'i ganlynwyr i uffern. A da iawrn i ni pe buasai y gethern gas yn mogi yn mwg y pydew, neu j?n cael eu difa gan y fflam- iau; ond nid felly y bu. Yn mhen rhyw amser wedi hyny daeth yr arch- elyn i'r ddaear, i Eden deg, ac a hudodd y dyn oedd ar ddelw Duw i uno ag ef mewn gwrthryfel yn erbyn eu Creawdwr da. Ond 0 ! ryfedd ras, yn He tafiu dyn i uffern at yr angelion a bechasent, cymerodd Duw drwy gyfryngwriaeth blaid dyn, a chyhoeddodd yn Eden ryfel rhwng Had y wraig a had y ddraig ; a swn rhyfel moesol sydd ar y ddaear o'r dydd 30