Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 319.] EBEILL, 1862. [Cyf. XXVII. GRISÎAÜ DERCBAFIAD. Diweddais fy ysgrif yn rhifyn Mawrth gyda y fantais o ymwneud â dynion o feddyliau mawrion, gwreichionllyd, fyddont yn debyg o danio meddyliau o'u cyffelyb lle y maent. Edrychwn yn mlaen yn awr ar yr hyn sydd fwyaf hanfodol i ymarferyd ag ef er cyüenwi ein cyneddfau dealloh Enwaf yr awgrymiadau yn un ac un. Y mae sylw craffyu dra angenrheidiol i ymesgyn ar risiau derchafìad. Y mae llawer o bethau nad ydynt yn werth sylw, a rhai pethau y byddài yn well eu gadael yn ddisylw. " Tro heibio fy U}i5;aid rhag edrych ar wagedd," meddai Dafydd. Tueddai sylw manwl ar lawer o bethau ellir weled yn y byd i ddifwyno y dychymyg, i dywyllu y deall, i anmhuro y serch, a swrthau y gydwybod. Tra angenrheidiol yw dethol yn ofalus allan o weithiau ac ymddyddanion dynion ; ond gellir yn ddiofn gymeryd holl eiriau a gwaith Duw i edrych arnynt. Mae y maesydd yn amryfath a dyddorol, yn brydferth a godidog, ac yn eang a thlws—y nefoedd uchod a'r ddaear isod; haul a lloer, ser a phlanedau, comedau a chymylau, y naill; a mynyddoedd cribog, creigiau ysgythrog, cymoedd a dyffrynoedd, afonydd a rhaiadrau, llynoedd a moroedd, pysgod ac ymlusgiaid, ehediaid ac anifeiliaid, blodau a pherlysiau, coedydd a glaswellt, y llalí. , "Wrth edrych ar waith Duw y mae tuedd yn meddwl yr hewydus \devoutJ i gyfodi at yr hwn a'i gwnaeth. Wrtli syllu ar ysgogiadau dynion fel eu cryn- sythir yn hanes y byd yn yr oesoedd a aethant heibio, gallwn ddysgu prif golliadau natur ddynol lygredig, ac ysgoi y pyilau i'r rhai y syrfhiasant hwy, a'u hefelychu yn yr hyn oedd rinweddol a llwyddianus. 'Y mae dir- gelion cyfrol fawr natur, rhagluniaeth, a dadguddiad, yn ymagor o flaen sylw eraff a pharhaol. Dyma yr agoriad ddadglodd ddeddfau y bydoedd o flaen yr anfarwol Newton; sylwodd ar yr afal yn syrthio oddiar y gangen i'r ddaear, ac arweiniodd hyn ei feddwl mawr allan i ymgydio ag anhawsderau, ac i ddadrys darholebau oeddynt hyd hyny yn nghlo, a chael allan lwybrau difyr i'r meddwl ymwibio na chanfuwyd mo honynt o'r blaen. Yr hyn ddaw i ni wrth sylwi yw y cwbl sydd genym yn wreiddiol, mae yr oll heblaw wedi eu goliwio â meddyliau ereill. Trueni fod cynifer yn hollol ddisylw. Ond y mae eisieu darllen llawer hefyd. Eithaf cynghor roddodd Paul i Timotheus, "Glyn wrth ddarllen.'' Byddai ymfoddloni ar sylw, gan nad pa mor graff, fel yr unig gyfrwng i gyrhaedd gwybodaeth, yn cyfyngu ein cylch ac yn culhau ein meddyhau. Y meddwl galluog, gafaelgar, a choeth, sydd wedi ei ddodrefhu yn ddefnyddiol, yw hwnw sydd wedi derbyn i mewn trwy sylw personol, ac wedi cymeryd i mewn gynyrchion sylw per- sonol dynion o feddyliau mawrion fel y byddont wedi eu cofhodi mewn 13