Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. S02.] TACHWEDD, 1860. [Cyf. XXV. WYTH YSGRIFENYDD Y TESTAMENT NEWYDD. GAN Y PAHCH. T. DAVIES, LLANELLI. Nid oes un ffaith rwyddach iV gwireddu wedi ei chofrestru ar ddalenaü hanesiaeth, nag i'r fath berson a Iesu Grist ymddangos yn Judea er ys ychydig yn rhagor na 1800 o flyneddau yn ol. Bu y íath bersonau a Cyrus, Alexander, a Julius Csesar, yn y byd, ond y mae cofebau lliosocach a phrawfion cadarnach o ymddangosiad Iesu Grist na'r un o honynt. Llais unol Iuddewon, Paganiaid, a Christionogion, yw, iddo fyw yn nheyrnasiad Tiberius, yr ymherawdwr Ehufeinig, adyoddef marwolaethdan Pontius Pilat, rhaglaw Judea; ac y mae genym heddy w gofarwyddion o'i enedigaeth, ei angau, ei adgyfodiad, a'i esgyniad, a pherchir ei orchym- ynion gan filiynau. Rhyw dair blynedd y bu Iesu yn y byd yn y cymer- iad o Ddysgawdwr cyhoeddus, eto efe a greodd dònau yn awyrgylch dyn- oliaeth ag sydd wedi parha heb wanhau hyd heddyw, ac a barhant eto i gryfhau tra pery dyddiau y ddaear, a bydd "tyrfa fawr na ddichon neb eu rhifo" mewn gogoniant yn canu am ei fuddugoìiaethau, pan fyddo enwau buddugoliaethwyr daéar wedi eu hanghofio. Dysgodd Iesu lawer, a gwnaeth wyrthiau rhyfeddol, ond nid ysgrifenodd ddim. Ysgrifenodd Confucius a Mohamed egwyddorion a rheolau eu crefydd yn gyflawn cyn marw, ond ymadawodd Iesu â'r ddaear cyn i un gair gael ei ysgrifenu ganddo ef, na chan yr un o'i ganlynwyr. Gallesid felly yn naturiol feddwl y buasai y sôn am dano yn marw gydag ef, neu yn fuan ar ei ol; ond wedi ei esgyniad fe roddodd yr Ysbryd Glân, yn ol ei addewid, er tywys ei ddysgyblion i bob gwirionedd ; a dan ddylanwad yr Ysbryd hwnw, fe ysgrifenwyd 27 o lyfrau, cyn pen 70 mlynedd wedi esgyniad Crist, gan Mathew, Marc, Luc, Ioan, Paul, Iago, Pedr, a Judas. Ac y mae y llyfr- au hyny ar gael heddyw yn un gyfrol werthfawr yn y Testament Newydd, pan mae rhif y sêr o lyfrau a ysgrifenwyd ar eu hol wedi eu claddu er ys oesau yn mynwes ebargöfiant bythol. Mae eglwjrs Dduw wedi arfer edrych ar y gyfrol hon fel unig reol ei ffydd a'i hymarweddiad, ac ymad- awai lluoedd heddyw â'u tai, eu tiroedd, a'u bywj'd, cyn yr ymadawent â'r Testament Newydd. Edrychant ar y Beibl fel llyfr Duw a Duw y U^rau. Mae prawfìon mewnol a thystiolaeth allanol yn sicrhau mai yr wyth a nodwyd eydd wedi ysgrifenu gwahanol lyfrau y Testament Newydd. Cy- foda y prawfion mewnol oddiwrth gymeriad ei ysgrifenwyr, ei iaith a'i arddull, amgylchiadolrwydd yr hanes, ac oddiwrth gyd-darawiad anfwr- ladol ei hanes â hanes yr amseroedd jt ysgrifenwyd ef. Ond fy amcan presenol yw rhoddi golwg i'r darllenydd ar y dystiolaeth allanol mai yr ^yth uchod sydd wedi eu hysgrifenu. Yr ydyni yn derbyn llyfrau y J- estament Newydd fel eiddo Mathew, Marc, Luc, Ioan, Paul, Iago, Pedr, a Judas, am yr un rheswm ag ydym yn derbyn ysgrifeniadau Herodotus, 41