Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. ^ > * * "RHiF.3eÜ ~ÌÖNÄWRTΫäI (CŸf7x3^~ DIWYGIAÜ CREFYDDOL. . Ezec 37, 1—10.* GAN Y PARCH. RHYS JONES, RHAYADRWY. Yn nyddiau Ezecicl yr oedd pobl Israel wedi myned i anobaith: yr oedd eu dí- nasoedd wedi eu dinystrio. eu teml wedi ei Uosgi à thân,eu tywysogion a'u hoffeir- iaid wedi eu lladd à'r cleddyf, a hwythau wedi eu gwasgaru ar hyd y gwledydd, nes oeddynt yn methu a gweled fod yn bosibl iddynt byth gael eu hadferyd yn ol i'w gwlad. " Ein hesgyrn, (meddent,) a wywasant, a'n gobaith a gollodd ; tòrwyd ni ymaith o'n rhan ni." Pa fodd bynag, er bywhau eu ffydd a chynyrchu gobaith adnewyddol ynddynt, mae Duw yn dangos i Ezeciel trwy weledigaeth, ei fod ef yn alluog i adferu Israel pe buasai eu sefyllfa yn fwy anobeithiol o ran ymddangosiad nag ydoedd y pryd hwnw. Y mae yn rhoddî bywyd nid yn unig i ddynion meirw, ond i esgyrn gwasgaredig sychion iawn, fel rhai a fuent feirw er ys talm. Er mai amcan cyntefig y weledigaeth hon oedd dysgu pobl Israel i ymddiried yn Nuw; eto, pan gofiom mai hwy oeddynt unig eglwys Dduw y pryd hwnw, meddyliwn nad oes dim yn anmhriodol mewn galw sylw yr eglwys yn y dyddiau presenol at y geiriau, cr eu dysgu fod Duw yn abl i roddi iddi fywyd adnewyddol, a'u hanog i ddysgwyl adfywiad oddiwrth bresenoldeb yr Arglwydd. Mae hanes yr eglwys trwy yr holl oesau a aethant heibio, yn dangos eu bod wedi mwynhau llwyddiant mwy ar rui tymorau nag ereill; ac y mae y proffwydoliaethau am ei llwyddiant dyfudol, yn arwyddo hefyd ei bod i ddysgwyl diwygiadau nerthol ar ryw adegau. Gwel Esay 66, 7, H, " Cyn ei chlefychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar tab." Yna mae y protfwyd yn gofyn, a fu y fath beth o'r blaen ? a fu llwyddiant o'r blaen, y fath nas gellir ei gymharu i ddim ond y ddaear yn tyfu mewn un dydd, neu genedl yn cael ei geni ar unwaith—erbyn bod Sion yn' dechreu clefychu, wele hi yn fam tyrfa fawr o feibion a merched ar unwaith. Y mae Uawer yn awyddus iawn am lwyddiant yr eglwys, ac eto yn methu gweled mai diwygiad yw y ffordd orau er dwyn hyn oddiamgylch. Mae amrywwrthddadleuon yn cael eu dwyn yn mlaen gan ddynion da yn erbyn diwygiadau. Gwnaf sylw o rai o honynt yn bresenol. Ni chaniata amser i sylwi arnynt oll; ac heblaw hyn nid yw y rhan fwyaf ond adraniadau o'r prif rai y caf alw sylw atynt. Y blaenaf yw, nad oes argyhoeddiadau gwirioneddol yn cael eu cynyrchu yn amser diwygiad. Profìr hyn mewn dwy ffordd: sef fod llawer yn uno à'r eglwys mewn sefyllfa gyffrous o ran y meddwl, heb gymeryd digon o amser i ystyried ac ymresymu, yr hyn sydd anhebgorol angenrheidiol wrth gymeryd i fyny â chrefydd. I'r cyfryw yr wyf yn ateb trwy ofyn, A ddarfu i chwi erioed adnabod dyn a unoddâ chrefydd yn groés i'w deimlad o herwydd ei fod trwy ymresymu wedi dod i'r penderfyniad mai gwell oedd gwneud ? Onid oes canoedd yn ein gwlad w-edi eu hollol berswadio yn barod mai gwell fyddai iddynt fyw yn grefyddol, ac eto heb un grefydd? Y gwaith angenrheidiol yn ein gwlad ni y w darostwng y teimlad, er dwyn dynion 1 wneud yr hyn y mae eu deall wedi ei berswadio ddylid wneud; a dyma yr hyn mae diwygiad crefyddol yn ei wneud bob amser. Eto, yr wyf yn gofyn, faint o amser i fyfyrio ac ymresymu gafodd y tair nül hyny ar ddydd y Pentecost, cyn iddynt waeddi allan, " Ha wyr frodyr, bcth a wnawn ni?'' Ac eto yj oedd Pedr a'r apostolion ereill yn edrych amynt fel wedi eu hargyhoeddi, a phrofodd eu * Traddodwyd sylwcdd y Traethawd hẃn Ÿtí Nghyfarfod Chwarterol Brycheiniog. Tachwedd, 18-53. ' -.■--. J •*'