Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RniF. 160.] TACHWEDD, 1848. [Cyf. XIII. YSBRYD CYHOEDD Wrth ddal sylw ar arwyddion yr amserau, a gweled y chwyldroadau moesawl gymerant le mewn teyrnasoedd, y cynhyrfiadau gwladol a'r ysgogiadau crefyddol a ffynant yn ein hoes, tybiwn mai y peth mwyaf angenrheidiol i'r amseroedd ydyw Ysbryd Cyhoedd. Dyma yr ysbryd sydd yn fwyaf anhebgorol angenrheidiol er ein defnyddioldeb crefyddol a'n buddioldeb gwladol, ac yn ddiddadl hefyd y peth mwyaf diffygiol o bob peth ydyw yn ein heglwysi a'n gwlad. Fe allai mai nid gormod yw dweyd, tra fyddo y blodeuyn hwn yn eisieu yn eglwys y Duw byw, cywilyddia pob blodeuyn arall i wneyd ei ymddangosiad. Nid oes dim yn fwy o gancr yn y wlad, nac yn fwy o wyfyn yn yr eglwys, nag ysbryd cul ac anhael fyddo yn atal y gwirionedd trwy anghyfiawnder; ond yr ysbryd haelfrydig, a ddygo ei berchenog i deimlo a gwneyd dros ereill, a lanwai fyd o ofid â dedwyddwch paradwysaidd. Ymofynwn beth ydyw Ysbryd Cyhoedd. Mae Ysbryd Cyhoedd yn cynwys cariad goruchel at Dduw.—Mae hyn yn cynwys golygiadau cywir am dano; a phan y bernir yn addas am Dduw, ac y teimlir yn addas tuag ato, nid oes un effaith yn fwy sicr nâ theimladau addas at y creadur hefyd. Un o gastiau cyntaf tad y celwydd oedd týnu dyn i farnu yn anghywir am Dduw, fel y buasai yn sicr o deimlo yn anweddus tuag ato, gan wybod os buasai yn Uwyddo i dòri y dorch a gysylltai ddyn â Duw, y buasai yn llwyddo hefyd i dòri holl gysylltiadau cymdeithas, a'i gwneuthur yn garnedd anferth o annhrefn ac an- nedwyddwch. Cyn gynted y chwenychodd dyn i fod megys Duw, ymgyrchai at orsedd Duw; ac yn ei ymgyrch aeth yn Ismael, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; ac nid yw pob pechod a gyflawnir ond ymegniad uffernol o eiddo dyn i fod yn Dduw iddo ei hun, a chael pawb ereill, fel ysgubau Joseph, i ymgrymu iddo ef. Wedi colli deddf fawr y sugndyniad oedd yn dal holl wahanol ronynau cymdeithas â'u hwyneb ar Dduw, aethant dan lywodraeth deddf y gwrth- ýriad; felly teyrnasoedd, taleithiau, a phersonau a eglur ddangosant duedd i ym- ddidoli oddiwrth gymdeithas, a gosod eu hunain i fynu ar ddinystr ereìîl. Hwyr- ach fod llawer mwý o debygolrwydd rhwng y greadigaeth naturiol a'r foesol nag yr- ydym yn feddwl yn gyffredin, a bod y naill yn well esboniad ar y llall nag yr ydym wedi ddychymygu. Mewn natur gwelwn bob cyfangorff mawr yn sugndynu gwrthddrychau llai ato ei hun, ac yn ol ei faintioli mae y bach yn tynu hefyd. Gan rym yr egwyddor fawr hon y delir trigolion y ddaear a'u trigleoedd ar ei hwyneb, y cedwir y mynyddoedd cribog i orwedd ar eu seiliau, y dyscyrcha y cor- nentydd yn orwyllt dros ael y bryniau i'r dyffrynoedd, ac y treigla yr afonydd dolenawg yn eu mawrhydi i'r aberoedd; ac wrth rym hon y cedwir y môr megys wrth gadwyn yn ei wely, er ei rwystro i ymruthro dros ei geulanau, a gorchuddio ci lenydd à dinystr—yr atelir y coedwigoedd rhag ymddadwreiddio, ac ehedeg fel plu yn yr awyr; mewn gair, hon ydyw prif lywydd natur er ei chadw mewn priodol drefn, ac yn ddefhyddiol y naill ddarn o honi i'r llall. Felly, y mae cariad at Dduw yn uno y greadigaeth resymol mewn perffaith ufydd-dod iddo ei hun, ac yn hollol wasanaetligar y naill ddarn i'r llall. Cariad at Dduw sydd bob amser yn esgor ar ysbryd hael, awyddus i ledu dedwyddwch, a llanw pob llestr ag ef. Yr un yn gywir yw yr egwyádor sydd yn ymgodi yn folawd a pharch i Dduw ag sydd hefyd yn Uifo ar agwedd, tosturi, cariad, cydymdeimlad, ac ewyllys da atycreadur; 43