Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 93.] EBRILL, 1843. [Cyf. VIII. MELLDITHION YR HEN DESTAMENT YN GYSON AG YSBRYD YR EFENGYL. GAN Y PARCH. SAMUEL GRIFFITHS, H O R E B. Dewi.—Da genyf eich gweled, gyfaill an- wyl; nid bychan yw y terfysg y sydd yn fy roeddyliau y dyddiau hyn. Toan.—Peth terfysgrlyd iawn yw y me- ddwl ; ond attolwg, pa beth sydd yn eich blino fwyaf? Dewi.—Bnm yn ymddyddan â dyn oedd yn amheu dwyfoldeb gair Duw, ac yn mhlith pethau ereill, dywerìodd fod Awdwr yr or- uchwyliaeth Gristionogol gwedi gorchym- yn i ei ganlynwyr i i'endithio y rhai oedd yn eu melldithio ; ac mai croes i hyny oedd amryw o enwogion yr hen Destament, pan yn melldithio dynion ereill, er bod y Biblyn eu galw hwynt yn ddyuion santaidd Duw. Ioan.—Dull cyffredin Anffyddiaid, a'r rhai nad ydynt yn caru y Bibl, yw amheu, a gwrthddywedyrì ei dygtiolaethau, ac an- mharchu ei ysgrifenwyr santaidd, fel y gwnaetb Core gynt, Jude 1 ] ; ond pa effaith neillduol gafodd hyny areich meddwl chwi ? Dewi.—Effeithiodd ar fy meddwl nes peri i mi chwilio y Bibl, a'i ddarllen yn fanwl; acer fy mod yn gwelerì rhyw bethau dyrus ac anhawdd iawn i ni i'w deall, etto gan fy mod yn catu y gair santaidd, a chenyf obaith i mi ei dderbyn, nid fel gair dyn, ond fel y mae yn wir yn air Duw, cad- wodd hyn fî rhag ymollwng yn awr y brof- edigaeth. Anhawdd gwadu roelusder y mêl ar ol profl ei flas. Ioan.—Gwir yw fod profiad yn werth mawr, os bydd yn deilliaw oddiwrth wir ffydd mewn Dwyfol dystiolaeth ; ond gan eich bod gwedi gweled yn y Bibl rywbethau dyrus ac anhawdd eu dcall, enwch rai o honynt. Dewi.—Yn mhlith pethau ereill, dy wed- odd y dadleuwr fod Moses yn groes i Grist a'r grefydd Gristionogol, pan yn boddi Pharao a'i lu, a phan yn gorchymyn i'r cablwr a'r cynnutwr i gael eu llabyddio, ae yn enwedig pan orchymynodd y farn a'r felldith ofnadwy hòno ar Corah a'i gyfeillion. Ioan.—Amlwg yw, er fod yr Anffyddiwr yn siarad am Moses, etto, mai dadleu yn erbyn Duw yr ydoedd : onid wrth orchym- yn Duw y gwersyllodd Moses ac Israel rhwng Migdol a'r môr ? onid yr Arglwydd a yrodd y mòr yn ei ôl? onid yr Arglwydd hefyd a edrychodd drwy y golofn dân a'r cwmwl, ac a derfysgodd fyddinyr Aifftiaid, ac a dynodd ymaith olwynion eu cerbydau, ac a'u dymchwelodd yu nghanol ymôr? Gwaith Duw ac nid Moses oedd hyn.—Ac am y cablwr, a'r hwn oedd yn casglu tân- wydd ar y Sabbotb, nis gwyddai Moses ei hunan pa gosp i roddi arnynt, hyd nes y gorchymynodd Duw eu llabyddio.—Ac am Corah, Dathan, ac Abiriim, mae yn hawdd gweled eu gelyniaeth yn erbyn Duw, a'a hamcanion melldigedig i ddystrywio Hyw- odraeth ac offeiriadaeth Duw allan o Israel. Gallwn weled duwioldeb Moses yn ei waith yn cwympo ar ei wyneb, yn eiriol dros y bobl—yn ei waith yn gadael y ddadl i gael ei phenderfynu yn ol ewyllys yr Arglwydd ; ac hyd y nod pan oedd Dathan ac Abiram yn haeru celwydd yn ei wyneb; ac yntau yn llawn eiddigedd dros enw yr Arglwydd, y mae yn tystio mai nid o'i feddwl ei hun yr oedd yn gweithredu, nid gwneyd cam à'r dwyfol nwdurdod ac â'r dwyfol ddylanwad oedd ganddo, ond cyflawni ewyllys yr Arglwydd ydoedd. Gallwn weled yn yr hanes ryfedd hon, fod roiloedd o blant Israel dan lywodraeth yr un ysbryd à'ranffyddiwr, pan oeddent drannoeth yn 13