Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR Rhif. jgí.'] MEHEFIN, 1842. [Cyf. VU. COFIANT Y PARCH. DAVID THOMAS, LACHARN. a\X i<rx£ Kafiav nv?i<T7iv."—Euripides. NESAFát y boddlonrwydd ag a deimla pob ineddwl crefyddol wrtb weled betb y mac gras wedi ei wneyd arno ac yitfddo ef ei hun, yw yr hyfrydwch a brofa wtth weled beth y mae gras wedi wneyd yn ac ar ereill'; ac mewn cofiant crefyddol, naturiol yw dysgwyl am ryw hyfryd brofion o orchest- ion ffydd mewn ufydd ymostyngiad yn yr amgylchiad cyfyngaf a'r awr galetaf. Nid heb deimlo gradd o ofn yr wyf yn ymosod ar y gorchwyl hyfryd o ysgrifeuu ychydig linellau er diogelu coffadwriaeth y gwr ieu- anc teilwug uchod rhag syrthio i dir anghof- rwydd. Yr acbos o'm hofnau yw yr ymwy- bodolrwydd sydd yu fy merldiannu, nas medraf roddi darluniad cyfiawn o'i gym- nieriad—-darluniad ag a fydd yn debyg o drosglwyddo i'r darllenydd feddylddrych cywiram dano. Ganwyd Mr. Thoajas yn Ffynnon Adda, yn ardul Brynberian. Trefnodd rhaglun- iaeth iddo roddi yr anadliad cyntafynyr un ystafell ag y gauwyd y diweddar Barch, B.Evans, Trewen ; yr hwn, fel gwrthddrych einCofiant, a enwogodd ci bun trwy fywyd o rinwedd a duwioldeb. Cafodd y ragor- fraint o gael ei eni o rieni crefyddol, y rhai a gymmerasantddwysofal i ddysgu eu mab i fynu yn " addysg ac athrawiaeth yr Argl- wydd." Mor gynted ag y dechreuodd galluoedd ei feddwl gael eu dwyn i weith- rediad, dangosodd duedd cryf i ymofyn am wybodaeth. Er yn blentyn, yr oedd ei duedd yn hynod ymofÿngar, a ihijjyr'uncl; rhoddodd arwyddion cryfion yn foreu, fod e' í'eddwl yn feddiannol ar alluoedd a meimladau o radd uwch ná'r cyfiredin ; d'niweidrwydd a dealldwriaeth oeddynt ys- grifenedig mewu llincllau cglur ar ei wynebpryd—yr oeddcyfansoddiadei feddwl yn ganfyddadwy yn ei olwg. Wrth ystyr- ied ,y ragoriaeth a gyrhaeddodd ein brawd mewn rhinwedd a duwioldeb, a hyny mewn ocs mor fèr—canys prin y treiglodd 31 o flynyddau dros ei ben—y mae yn dra naturiol i ni ymofyn, pa fodd y treuliodd y rhan foreuol o'i oes, oblegidyr ydym y gyf- nod bwysig hono o'n bywyd yn derbyn argraffiadau dyfnion ac annileuadwy—yn gwau arferiadau (hábits) y rhai a wisgwn am danom trwydaith ein pererindod. Un nodwedd yn nghymmeriad plentyn- aidd Dafydd, ydoedd ei hoffder o ?ieilldu- edd; anaml yr ymgymmysgai á'i gyfoedion mewn chwareuyddiaethau a digrif gampiau —dewisai ryw gongl o'r neilldu i syml- fyfyrioar ei wers, neu i ddarllen rhywlyfryn hofr'. Brydiau ereill, gwelid ef yn nghwmni rhyw hen bererin duwiol, yn derbyn yn awyddus y wybodaeth a'r ddoethineb addi- ferent o'i enau ; treuliodd lawer o amseryn nghwmni hen Rees, (tad y Parch. T. Rees, Kington,) yr hwn a fu yn foddion i gyfoeth* ogi ei feddwl â Ilawer o syniadau sylweddol a sobr. Y mae'r ffeithiau rhag-grybwyll- edig yn ein cynnorthwyo i gyfrif i raddau, am y symledd a'r diniweidi wydd diledryw a berthynai i'w gymmeriad. Ymgadwodd rhag yfed o'r teimladau llygredig, a ffurf- io'r arferion drygionus y mae plant yn rhy gyffredin yn dderbyn oddiwrth ou gilydd yn eu chwareuyddiaethau a'u hymrysonau. Yr oeddynddeiliadargraffiadaucrefyddol yn dra ieuanc, ac ni fu fel y mae llawer, ýn anufydd i'r dylanwadau Dwyfol. Ymrodd- odd, credaf, yn "aberth byw, santaidd, a chymmeradwy ganDduw,"yny lémlwydd o'i oed. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwya gynnulleidfaol sydd yn ymgyfarfod yn Brynberian. Gwedi iddo ymaelodi yn eg-