Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhi'f. 78.] IONAWR, 1842. [Cyf. VIII. COFIANT Y DIWEDDÀR BARCH. THOMAS WILLIAMS, SARDIS, PONTYPOOL, SWYDD FYNWY. Ganwyd gwrthddrych ycofianthwn yn Nghwmgarw, swydd Gaerfyrddin, ynyflwyddyn 1810; hanoddo deulu crefyddol, a chafodd ei ddwyn i fynu o'i febyd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; daeth yn ddeiliad argraffiadau crefyddol pan yn ieuanc iawn. Pan yn ddeuddeg nilwydd oed, cafodd ei ddcrbyn yn aelod o'r eglwys gynnulleidfaol sydd yn cyf- arfod yn Nghwmamman, (yr hon y pryd hwnw oedd dan ofal gweinidog- aethol y Parch. J. Rowlands;) yr ydoedd yn ymddwyn yn addas i'w broíîes. Dangosai gyssondeb nod- weddiad, a santeiddrwydd bywyd; ac fe ddarfu iddo gynnyddu mewn gwybodaeth ysgrythyrol, a doniau gweddi, i'r fath raddau, nes tynu sylw cyffredinol yr eglwys arno; meddyliasant fod ynddo gymhwys- derau addas i fod yn enau cyhoeddus, ac annogasant ef i arfer ei ddawn fel pregethwr. Cyd-syniodd â'u cais, a phregethodd am dyrnmor yn y lle rhag-grybwylledig a'r cylclioedd, gyda derbyniad helaeth, a chymmer- adwyaeth mawr. Pan yn bedair-ar- bymtheg oed, cafodd alwad unfrydig gan yr eglwys Annibynol, sydd yn cyfarfod yn y Tabernacl, ger Llan- dilo Fawr. Wedi bod yn yingyng- hori llawer â Duw, ac â'i frodyr parchus yn y weinidogaeth, (yn enw- edig ei weinidog hybarch ei hun,) penderfynodd i gỳd-synio â'u dy- muniad taer a gwresog, a chymmer- odd ei urddo i fod yn fugail iddynt. Llawer o bethau a gyflwynasant eu hunain i'w feddwl pan yn dechreu ar ei yrfa weinidogaethol; ond er yn ieuanc iawn, ac ansiìiynnefin, etto, ymwrolodd ac ymgryfhaodd, oblegid yr oedd ei ddigonedd ef o Ç[duw. Wedi bod yn gweinidogaei.hu yn y lle rhag-dd' ,v ,od;^, rhwng pedair a phum mlynedd, cafodd- alwad i'r Maendy, swydd ForgaaiÄg, (yr hon alwad a dderbyniodd,) nid ydo^dd yr eglwys yn foddlon i ymadael ag ef, ac nid ydoedd yntau hefyd heb deimlo hiraeth mawr wrth ymadael â phobl gyntaf ei ofal gweinidog- aethol. Bu yn llafurio yn y He di- weddaf a enwyd, am bum mlynedd, ac nid heb arwyddion fod Duw yn arddel ei weinidogaeth, ac yn ben- dithio ei lafur. Oddiyno symudodd i Bontypool, bu yno am oddeutu blwyddyn ac ychwaneg. Buan ar ol ei ddyfodiad i'r lle hwn gwaeth- ygodd ei iechyd, ac aeth yn analluog i bregethu ; wedi bod yma am ysbaid o amser dan law meddyg, ac heb ar- wyddion gwellhad, aeth adref i dŷ ei fam, ond yr oedd argoelion amlwg fod ei ymddatodiad yn dynesu, a'i haul ar fachludo. Yr ydoedd yn amyneddgar iawn yn ei gystudd, ac yn dawel dan ei holl boenau ; cyd- nabyddodd yr Arglwydd, ac ymos- tyngodd i'w ewyllys Ddwyfol ef. Ar y 3ydd o Or.phenaf, 1840, heb ochenaid nac yuidrech pw^sodd ei