Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 33.] EBRILL, 1838. [Cyf. III. COFIANT DAFYDD DAVIES, PENFOEL, OONWIL-ELFED. Wrtii ysgrifenu coíìant unrhyw ber- son, ni ddysgwylir iddo fod wrth fodd pawb; dywedir gormod am rinwedd- au'r ymadawedig wrth fodd rhai, a gorrnod am feiau a cholledion y cyfryw wrth fodd ereill; ond nid yw yr ysgrifenydd yn meddwl boddio pawb. Gwrthddrych y cofiant hwn oedd David Daviès, Penfoel, plwyf Con- wil Elfed; yno y ganwyd ac y mag- wyd ftf; ei rieni oeddent grefyddol, a gallem feddwl iddo gael llawer o gynghorion da pan yn blentyn, ond er ei ofid ymddifadwyd cf o'i dad pan yn ieuanc. Bu amryw flynyddau wedi hyn cyn meddwl llawer am fater ei enaid, er nad oedd efyn hollol anystyriol fel rhai; a thua'r flwyddyn 1820 cyssegrodd ei hun i fod yn grefyddol, dewisodd fod yn mhlith yr eglwysgynnulleidfaoloedd yn ymgyfarfod yn Hermon, y pryd %ny dan ofal gweididogaethol y * arch. Mr. Bowen, Saron, ac yn awr dan ofal yr ysgrifenydd; felly, fe dreuliodd yn agos i 18 mlynedd yn ymarfer â chrefydd yn ei holl ranau ; °u am amryw o'i flynyddau diweddaf yn un o flaenoriaid yr eglwys gry- bnlledig. Yr oedd yn dueddoì i'r elefyd a elwir y Gwaed-gyfogiad, (Voniiting of BloodJ yr hwn a'i gwanhaodd yn raddol nes terfynu ei 0es yn y byd hwn, boreu'r Sabboth, yj" 2lain o Ionawr, 1838, tua 3 o'r gloch, pryd yr ehedodd ei enaid i'r öabboth tragywyddol. Dydd Mer- cher canlynol, ymgasglodd tyrfa fawr ynghyd, er hebrwng ei ran farwol i gladdfa Llanpumsaint, i ymgymysgu â'r priddellau hyd foreu udganiad udgorn Duw; ar yr achlj sur anerch- wyd y gynnulleidfa gan yr ysgrifen- ydd, oddiwrth 1 Sam. 20, 25; a'r Parch. Mr. Davies, Pantteg, oddi- wrth Preg. 7, 2 ; yna gorphenwyd trwy weddi gan y Parch. Mr. Jones, Saron. Gadawodd i alaru ar ei ol weddw a dau o blant, a lluaws o ber- thynasau a cheraint anwylgu. Caf- odd yr hyfrydwch cyn ei symud o weled ei ddau fab (er mor ieuainc) yn grefyddol,—un yn 14eg oed, a'r llall yn lleg oed. Hyderwyf y par- hant mor deilwng gyda chrefydd ag y parhaodd eu tad. Y mae Hawer o bethau da i'w dy- wedyd am Dafydd,—1. Fel dyn fe'i perchid ef gan bawb o'i gymmydog- ion; yr oedd bob amser. yn siriol a charedig; yr oedd o dymher fwyn- aidd iawn, ac nid hoff oedd ganddo weled terfysg un amser. Dymunol fyddai pe buasai ychwaneg o'i fath i'w cael yn y byd. 2. Gellir dweyd llawer am Dafydd fel crefyddwr,— gyda golwg am ei farn grefyddol yr oedd wedi bod y rhan flaenaf o'i oes, fel y dywedir yn gyíîredin, yn Gal- jìn uchel, ond y blynyddau diweddaf chwiliodd fwy drosto ei hun, a daeth i'r penderfyniad íbd gan ddyn ìawer o ddyledswyddau i ymarfer â hwynt. Gallaf ddweyd fy mod yn gwybod am ei olygiadau ar wahanol bynciau 14