Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DARLÜNYDD. Rhif 9. RHAGFYR, 1876. Pris Ceiniog. DR. EVAN PIERCE, DINBYOH. MAE hanes bywyd a llwyddiant unrhyw ddyn a ddefnyddia ei alluoedd, ei gyfoeth, a'i ddy- lanwad i wneyd daioni i'w gymydogion, a gwasanaeth i'w genedl, yn rhwym o fod yn addysgiadol i bobl ieuainc, ac yn ddifyrus i bawb. Prin y mae neb yn fyw yn Ngogledd Cymru a mwy o neillduolion o'r natur hwn yn ei hanes na'r meddyg enwog, Evan Pierce, Ysw., M.D., yr hwn sydd Grwner dros swydd ^ghvn T' tt\ Ddinbych, Ustus Heddwch, ac Alderman yn yr|a^§or Trefol, ei fwrdeisdref enedigol. Bu ei fywyd ef yn çddus ^a Un*g ° *a^ur Persono1 y11 ei alwedigaeth anrhyd- ^ser'-i^fí ° weitngarwcü a defnyddioldeb cyhoeddus—bob yn barod i dreulio ac ymdreulio, tra y parhai îechyd a nerth, mewn gwneyd daioni yn y cylchoedd y mae wedi troi ynddynt. Trwy glod ac anglod, weithiau ystorm ac weithiau heulwen, gweithiodd y Doctor ei ffordd yn mlaen hyd yn awr pan y mae wedi cyrhaedd ei 68ain flwydd, yn fawr ei barch, yn uchel ei glod, ac yn gyfoethog o gyfeiÜion. Yn yr wrtholwg ar fywyd yr ymddengy» ^pwysigrwydd dyddiau dyn ar y ddaear, ac nid oes ond y da a'r defnyddiol, y trugarog a'r hunan-aberthol a faidd edrych yn ol yn gy»uru3 ar y dyddiau gynt. Er mai y diweddaf un, yr ydym yn credu, fyddai Dr. Pierce i wag-ymffro»tio yn yr hyn a wnaeth ac a gafodd o ddaioni yn ei oes, gan anghofio y rhaid fod ynddo wendidau fel yn y gorau o ddynion, eto, sicr ydym y gwel yn yr wrtholwg ar ei yrfa lawer pelydr dysglaer e heulwen yn tori trwy gymylau duon byd. Dyna ei anwyl fam, er •ngraüfft