Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«KI2AX Y BEDYDBWIB. Rhif. 88.] EBRILL, 1834. [Cyf. VIII. COFIANT Y PARCH. J. HIER, BETHESDA, BASSALEG. T17'rth gymmeryd ysgrifell i gyf- lwyno i'r cytfredin fywgraffiad neu gohant am ein brodyr sydd wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, mae perygl rhag i ni, trwy rym ein teimladau, roddi achlysur i ein dar- llenwyr i ein tybied yn ddibris am wirionedd ac onestrwydd. Anturiaf yn bresennol roddi ychydig o hanes cymmeriad ac ymarweddiad un ag oedd yn anwyl a hoíF genyf, a chan bawb a adwaenai fy hen gyfaill a'm cydymaith mewn llafur dros amryw o flyneddau, y Parch. John Hier, yr hwn a fu yn weinidog yr efengyl yn Bethesda, Bassaleg, swydd Fon- wy, dros 46 o flyneddau. Teim- lwyf anhawsdra i osod ger eich bron ddarluniad cywir o hono ef, yr hwn oedd yn un o'r rhai hyny y mae yn rhaid wrth adnabyddiaeth bersonol â hwynt er ein dwyn i adnabod eu cymmeriadau, ac i'w prisio yn ol eu rhagoriaethau, ac ydynt hefyd wrth eu hadnabod yn llewyrchu fwy fwy. Ganwyd y Parch. John Hier yn swydd Benfro, yn agos i LangloíFan, lle hefyd y bedyddiwyd ef pan oedd o gylch 16 oed. Yn fuanymddang- osodd ynddo ddawn gweinidogaeth- ol; teimlodd awydd, ac annogwyd ef gan ei gyfeillion, i fyned i'r Athrofa yn Nghaerodor, y pryd hyny dan olygiaeth y Parch. Caleb Evans, D. D. Yr oedd hyn yn y fl. 1835. Aeth i'r Athrofa, a bu yn mwynhau manteision addysgiadol ynddi yn CYF. VIII. agos i ddwy fljnedd. Wrth ym« deithio tua Chaerodor pregethai yn achlysurol yn Bethesda. Sylwodd yr eglwys arno, ennillodd serch a chariad y brodyr oedd yno yr amser hwnw, ac yn benaf un yr oedd eu hen weinidog, y Parch. Evan David, yn ei hoffi yn fawr. Penderfynasant yn unfrydol arno i gymmeryd eu gofal, a rhoddasant alwad iddo i sef- ydlu a llafurio yn eu plith. Gwedi dwys ytyriaeth a gweddi ar Dduw cydsyniodd â'u deisyfiad. Ymad- awodd â'r Athrofa, a daeth i fyw i ganol maes ei lafur yn y fl. 1787, Ue parhaodd hefyd i lafurio hyd ddiwedd ei oes. Wrth sylwi ar wrthrych ein cof- iant fel dyn, yr oedd careiddiwch ei berson a'i ymddygiad yn ennillgar a chryf, cymheliai ef gariad ac ym- ddiried y neb a'i adwaenai. Par- haodd hefyd i feddu hyn yn ei gys- sylltiadau mwyaf neillduol, ac yn ei gylch mwy cyhoeddus, tra gadawodd Duw ef ymhlith ei frodyr ar y ddae- ar. Yn fuan gwedi sefydlu yn swydd Fonwy priododd Miss Ann Jenkins, merch y diweddar John Jenkins, Ysw. o'r Bont-hir, yn agos i Gaerlleon-ar-wysg. Cafodd ddeg o blant, wyth o ba rai sydd etto yn fyw, i alaru gyda eu mham ar ol eu tad. Gellir yn rhwydd ac heb betruso ddywedyd am dano, gyda golwg ar ei berthynasau naturiol, ei fod yn briod a thad caredig, gofalus, a ffyddlon. Meddai ar alluoedd amgyffrediadol 13