Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

«■MBAE. "IT BEDYDDWY». Rhif. 78.] MEHEFIN, 1833. [Cyf. VII. GORTHRYMDER Y WLAD. At Olygydd Grëal y Bedyddwyr, Syr, I^Lan fod eich Cyhoeddiad misol wedi ei amcanu i fod yn drysor- fa o wahanol wybodaethau er -budd Tn cenedl yn gyffredin, yn gystal ag i'r Bedyddwyr fel enwad crefyddol yn ein plith, i ateb yr hwn amcan ardderchog y mae wedi ei ddiwygio i raddau mawr yn y misoedd di- weddaf, a bod diwygiad ychwanegol i'w ddysgwyl etto pan gafFoch y lly- thyrenau newyddion bychain y son- iwch am danynt, er helaethu ei gyn- nwysiad, meddylìais nad anwiw fuas- ai genych roddi lle i draethawd byr o'r fath a ganlyn, yn cynnwys ych- ydig nodiadau ar orthrymdcr ein gwlad. Bod brodorion ein gwlad yn or- thrymedig i raddau pwysig sydd wir- ionedd profadwy ac anwadadwy. Byddai holl dudalenau eich Greal, a'u rhoddi fymi yn gwbl oll at hyny yn unig, am amryw fisoedd, lawer yn rhy fach o le i ddarlunio i'r helaeth- rwydd a'r eglurdeb priodol natur, achosion, ac effeithiau athrist holl orthrymderau trigolion ein gwlad: am hyny ni wnaf yma ond yn fyr nodi rhai o lawer o'r pethau y galì- asid sylwi arnynt, gan obeithio yr ynüddengys etto draethodau addysg- iadol, er diwygiad a gwellhad cyff- redin, oddiwrth rhai o'ch Gohebwyr deallus. 0 barth natur ein gorthrymderau CYF. VII. gwladol, sicr yw nad ydynt ond gwasgfaon corfforol, amgylchiadol, a thymhorol; canys ar gyrff, medd- iannau, ac amgylchiadau dynion y maent yn pwyso; ond trwy y ber- thynas agos a bywiog sydd rhwng y corff a'r enaid y maent yn effeithio anghysur pwysig yn y meddwl, ac felly yn tueddu yn rymus i ddifudd- io yr enaid o lawer o'i ddiddanwch profiadol, myfyriol, a chymdeithasol. Y mae yn amlwg fod gorthrymder ein gwlad yn tarddu oddiwrth amryw wahanol achosion. Y dywediad cyffredinyw, maiprinderarian acaur yn y wlad ydyw y prif achos o'r holl orthrymder; ond mae y dywediad hyny yn effaith camsyniadau dynion, canys y mae yn debygol na bu er- ioed fwy, os bu ar unrhyw amser gymmaint, o aur ac arian bathol yn y deyrnas hon ag sydd yn ein dydd- iau ni. Nid o ddiffyg arian, ond o ddiffyg iawn drefn ar arian a phethau eraill, y tardd y ffrydiau mwyaf llif- eiriol o'n gorthrymderau: canys pe byddai holl gerig ein creigiau yn arian, adyfroeddein hafonyddyn aur, gyda thrais ac annhrefn, gallem, er hyny, fod byth mor orthrymedig ag yr ydym yn bresennol. Nid ar aml- dra o arian bathol, ond ar iawn drefnu pethau yr ymddibyna cysuron amgylchiadol trigolion ein gwlad. Diau yw, fod ffrwd lifeiriol o'n gor- thrymderau gwladol yn rhedeg yn feunyddiol o lygad ffynhonell lygr- 21