Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<&r*i*l » BŵijlsS&liîiin Rhif. 57.] MEDI, 1831. [Cyf. V. BYWGRAFFIAD Y DIWBDDAR BAB.C». JOHN JONSS, DaSPaîEWTTDD, SWYDD DREFALDWYN. JONES o'r Drefnewydd wedi marw! Mae y newydd fel breuddwyd i fy j meddwl. Beth! ysgrifenu hanes bywyd , a marwolaeth un ag yr wyf yn ddysgwyl j adref agos bob dydd? ì'e, dyma yw íy i ngwaith heddyw; a'r gorchwyl caletaf yw a syrthiodd i'm rhan, er pan dysgais osod pin ar bapyr. Ddarllenwyr,—gwn yn ddigon da mai nid fy nheimladau i, ond hanes Jones, o'r Drefnewydd, yr ydych chwi yn geisio: wel, mi ymdrechaf ichwi iiael hyny. Yr j ydwyf yn llafurio dan lawer o anfantais i j ysgrifenu ei Fywgraffiad, mor gyflawn ag j yr ewyllysiwn, am nad adawodd ein | Brawd ymadawedig ddim mewn ysgrifen ar ei ol i'm tywys at un ran o hanes ei fywyd! Ei hoff waith efoedd pregethu; • ac yr oedd y cylch oedd ganddo mor | helaeth—y ffordd oedd ganddo i deithio mor belled, a'r galwadau arno i bregethu i mor aml, fel nad oedd amser ganddo i ysgrifenu ond ychydig heblaw ei bregeth- au. Yr hyn a ellais gasglu o hanes ei fywyd sydd fel y canlyn:— Ganwyd ef yn y flwyddyn 1783, yn aços i Ffynnonau Llahdrindod, Swydd Faesyfed, o rieni parchus a duwiol, y ihai ydynt etto yn fyw. Mae ei dad, ei fam, un brawd a dwy chwaer, yn aelodau efo y Bedyddwyr yn bresennol. Ni ellais gael allan fod un peth yn neillduol yn ei ddyddiau bachgenaidd; ond pan oedd yn 21ainoed galwyd ef ganRas y nef o ffyrdd pechod, i deithio y Uwybr sydd â'i ben draw yn y bywyd tragywyddol. O, fy anwyl gyfaill Jones, mae efe heddyw ar ben ei daith! Bedyddiwyd ef yn y flwydd- yn 1804, gan y diweddar Barch. David Evans, o'r Dolau; unodd â'r eglwys sydd Cyf. V. yn cyfarfod yn y Rock; a dechrenodd bregethu jn fuan iawn. Hynod yw ftyrdd Duw: yr hen frawd parchus Timo- thy Thoinas, o Abeiduar, a fedyddiodd D. Evans, o'r Dolau; D. Evans a fed- yddiodd J. Jones, o'r Drefnewydd ;—ond heddyw y mae Evans a Jones wedi meirw, a Thomas, o Aberduar, yn fyw i glywed y newyddion galarns hyn! Er enwoced dyn y daeth Jones, nid oedd un peth yn ei ddouian yn addaw hyny ar y cyntaf. Yr oedd yn ddyn ieuangc gostyngedig, syml a duwiol; ac, o herwydd hyny, yn dderbyniol yn ei gymmydogaeth, ond nid yn ddoniol ar ei gychwyniad cyntaf allan. Nid oedd yn plegethn pregethau hanner cant oed, pan nad oedd ef ei hun ond dwy ar hugain. Gwedi arferyd ei ddawn am ychydig o amser, annogwyd ef i fyned i'r Athrofa oedd gan y Bedyddwyr yn Llanllieni, dan olygiad y diweddar Barch. Samuel Kilpin. Dau o'i gyd-fyfyrwyr yno oeddynt y Parch. J. Evans, Aberhonddu, a'r Parch. D. Griffiths, Cwmifor. Gwedi dychweljd adref o'r Athrofa, priododd âg Elisabeth, ail ferch Mr. John Jones, o'r Castell, yn agos i'r Bontnew- ydd, Swydd Faesyfed; a chwaer i Mr. Peter Jones, o Lwyncus, a Mr.------Jones», o'r Tymawr;—teulu ag sydd wedi gwneud llawer dros achos Iesu Grist. Gwedi priodi, sefydlodd mewn tyddyn a elwir y Fron, yn mhlwyf Llanhir, He bu fyw dair blynedd. Pan y bu y Parch. John Pryce,oLwyn-y-brain,farw, cafodd Jones alwad i ddyfod yn weinidog i'r eglwys gynnulledig yn Rhydfelen, Drefnewydd, &c. &c. Rhydfelen oedd y fam eglwys, a changen o honi oedd y Drefnewydd Jiyd 28