Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fttörato t mentm* Rhif. 49.—IONAWR, 1831.—Pris lc. Yr Agerdd-beiriant. PETHAU bychain, dan driniaeth meddyliau cywraint a threiddgar,fu dechreuad llawer o bethau mawrion eu heffeithiau, a hir eu paräad. Edrych ar afal yu cwympo o frig pren, a ar- weiniodd feddwl Syr I. Newton i fyfyrio cyf- reithiau dysgyrchiant (graritation). Edrych ar yr ager yn codi cauad y crochan gydâ grym, pan ocdd y dwfr yn berwi, a arweiniodd feddwl rhy w un cywraint, yu amser Siarles yr ail, Ardalydd Caerwrangon, medd rhai, i farnu y gellid troi yr agerdd at wasauaeth buddiol. Braslun o Ayerdd-beiriant. Y peth blaenaf y gelwir ein sylw arno, ydyw y Crochan mawr, Uey megir yr agerdd : defnydd y Crochan, yr hwn a elwir y Berwwr, ydyw hai- arn neu efydd. Mewn maint a chryfder, cym- mwysir ef at y grym gofynol yn y peiriant. I gael yr agerdd yu wasanaethgar, tret'nir pibell i'w g'ario i y Rhol (cylinder); mae y Rhol yn debyg, o ran bod yn gron, i y Rholyn sydd gan yr Amaethyddwr yn gwastatâu ei faes wedi ei han. O fewn y Rhol, y mae y Mewn-ysgogydd (Piston); y mae hwn yn debyg i rhoden yn y gwn dwfr, yn awyr-dýn. Mewn lle cyflëns gosodir y Paladr (Beam), a rhoden o un pen