Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

&tftrato t ttlrotBis» Rhif. 122.—CHWEFROR 1837.—Pris lc. HYFRYDWCH GWIR GREFYDD. Anwyl ddarllenýddion,------ CEFAIS ganiatâd fis yn ol i osod o'ch blaen bwysigrwydd gwir grefydd; crefaf eich sylw y waith hon at y digrifwch santaidd sydd yuddi. Yinddengys fod y Creawdwr doeth a da wedi ein gwneyd ni mewn ìnodd ag ein hysgogir gan bocn a hyfrydwch; a rhoes y synwyr o deimìad ynom, fel gwyliedydd i gadw ein cyrph rhag niwed. Pan fyddo rhan o r corph yn rhy agos i dàn, neu dan efí'aith erfyn miniog, mae y poen a deimlwn yn rhybuddio y meddwl fod perygl, a'r meddwl, mewn tarawiad Hygad, yn gorchymyn i'r corph gilio o hono. Mae teimlad o hyfrydwch hefyd yn ein hysgogi. Y difyrwch a gawn mewn hwyta pan bo newyn, ac yfed pan bo syched; gorphwysdra pan fo'm flinedig, &c, a'n gyr i arfer moddion er sicrhau ei fwyniant. Gwydd- ocli yn dda fod gan y meddwl yntau ei deimladau; gẁyr y meddwl am boen ac hyfrydwch, yn ei gymell at ei weithrediadau. Cofiwn fod pechod wedi dwyn anrhefn mawr i'r rhan hyny o'r gread- igaeth, lle yr ym ni yn trigo; ac hefyd i'n natui, a bod perygl i ni ddilyn 0iai pethau sydd yn rhoddi hyfrydwch i archwaetb ddrwg, ond eu pen draw sydd chwerwach nag angeu. I ochelyd y gau ddifyrwch, niae genyoj reswm ynom éin