Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"sr " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' =* Rliif. «».] IHSSDI, 1838. CPris le. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedreldeb." AT BLEIDWYR DIRWEST. Ymddengys yr ymgyrch egn'íol a wneir yn erbyn meddwdod ac annghymedroldeb y byd, ■yn dra dyddorol a gwerthfawr wrth edrych ar yr effeithiau daionus agafodd eisoes ar amgylch- iadau allanol, a chysuron personol atheuluaidd, cannoedd a miloedd o drigolion ein gwlad. Odid y ceir un ardal nad oes ynddi ryw rai a allant ddwyn tystiolaeth i'r ychwanegiad at eu ded- wyddwch, a'r gwelliant yn eu sefyllfaoedd, a ddilynodd eu hymuniad a'r gymdeithas ddir- westol: a phe na byddai dim mwy o ddaioni yn deilliaw oddiwithi na'r cyfryw bethau, gellid meddwl nad oes un dyngarwr na roddai bob cefnogaeth i gymdeithas, ag sydd yn tueddu cymaiut at lesoldeb dynion. Y mae y dinystr a'r dystryw alaethus a wneir gan ddiodydd meddwol, ar iechyd, ar synwyrau, ar amgylch- iadau, ar ddefnyddioldeb, ar gymeriad, ac ar bob cysuron a fwynheir gan ddynion yn y byd hwn, yn rhy amlwg i neb allu eu gwadu: ac, o'r tu arall, y mae yr adferiad dedwydd a ga- fodd miloedd, trwy offerynoliaeth y gymdeithas ddirwestol, o'r trueni tymhorol mwyaf, yr un mor amlwg. Y mae yn ddiddadl bod y gym- deithas hon, dan fendith Duw, wedi bod yn foddion i wellâu iechyd llaweroedd, i sychu dagrau cannoedd o wragedd torcalonus, ac i borthi a dilladu miloedd o blant newynog a noethlwn; yn gystal ag i adferu i gymeriad, defhyddioldeb a pharch, laweroedd ag oeddynt wedi eu colli trwy eu harferion annghymedrol blaenorol. Dyledswydd pob dyn ydyw gwneyd cymaint o ddaioni i'w gydgreaduriaid, yn mhob ystyr- iaeth, ag a fyddo yn ddichonadwy iddo: ond nid dyledswydd yn unig yw, eithr y mae cael bod yn offerynol yn llaw Duw i ychwanegu at gysuron dynion, yn rhagorfraint arbenig hefyd. * mae Penlly wydd mawr y byd wedi trefnu, mai y ffordd i ddyn fwynâu dedwyddwch o ran ei deimladau ei hun, ydyw trwy iddo ymgais at wneuthur ei gyd-ddynion mor ddedwydd ag y gallo ef eu gwneyd. Y mae y gorfwyniant mwyaf hyfryd yn deilliaw oddiwrth ymdrechu at wneyd lles i ddynion; ac y mae y teimladau mwyaf anhyfryd yn gysylltedig wrth bob ynu gais at wneyd niwed jddynt. Ond er y teimlwn yn ddiolchgar i Dduw am y llwyddiant a ddilynodd ymdrechiadau eîn, cyfeillion gyda'r achos dirwestol, i leiâu truerii ac ychwanegu at gysuron dynion yn y hywyii hwn, teimlwn awydd eu hannog i beidio ag ymfoddloni yn unig ar gael y meddwyn o'r ffös, ar ei gael i'w ddillad a'i iawn bwyll, ond ym- drechu hefyd am ei gael at draed yr Iesu, ei gael at y Ceidwad mawr, i brofi ymgeledd u efengyl grâs Duw." Yr ydym yn ddigel ýn addèf y bydd y dyben eithaf sydd gan bob cristion, yn ei lafur gyda'r gymdeithas ddir- westol, heb ei gyrhaedd, nes cael y meddwya diwygiedig i'r noddfa a drefnodd Duw, i bechadur euog gael diogelwch byth ynddL Gan fod y fath ddyben mawr mewn golwg, oni ddylai pob cristion ei gymeryd yn fater gweddi ddifrifol a thaer am i Dduw gyflawni ei addewid rasol, o "dywallt ei Ysbryd ar bob cnawd ?" Y mae rhai ag oeddynt yn y pyllau flieiddiaf wedi ei codi oddiyno trwy otferynol- deb y gymdeithas ddirwestol; ac wedi iddynfe gael eu tueddu i wrando gweinidogaeth yjp efengyl, gwelodd Duw yn dda effeithioli hono er troi eu heneidiau. Ac y mae ei fod wèdi gwneyd hyny i rai, yn annogaeth grëf i rii weddio am iddo wneyd yr un drugaredd i ereill hefyd. Sr y bydd pob ymdrech at lesad ysbrydol dynion yn ofer, heb ddylanwadau Ysbryd Duw i effeithioli y moddion, nid peti i ni ddigaloni, a llaesu dwylaw a ddylai hyny, ond yn hytrach ein cymhell i fwy ò lafur, ac i weddîau taerach a mynychach am iddo Ef, i'r hwn y perthyn y gwaith o gjmhwyso iach- awdwriaeth, ddynoethi ei fraich alluog gyda LlV£RPOOL: ARGRAFPWYD GAN Y CYHOEDDWR, J. JONES, CASTLE STREETi AC AR WERTH GAN H. HÜGHES, 18, ST. MARTiN*S-LE*GRAND* LLUNDAIN.