Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ẃ ® äfóî SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG» Cyhoeddedig er Coffadwriaeth. am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. I.—Rhif. 12.] DYDD SADWRN, MEHEFIN 4, 1859. [Pris Un Geiniog. Yr 'Hyfforddwr' ............................. 177 Cynnrychioliad Eglwysi y Methodistiaid.......... 179 Yr Angenrheidrwydd i Ferched lafurio am Wybodaeth 180 Tegwedd Llwyd................................ 182 Hen Spectol fy Nain.......................... 184 Y Wasjr...........................:.......... 185 Y Genadaeth Iuddewig a Chyfarfod Misol Sir Fon .. 185 Sel Apostolaidd................-................ 185 Y Wraig yn marw, y Gwr mewn cyffro» a bywyd y Doctor mewn perygl.......................... 186 Undeb a Brawdgarweh......................... 187 Holiadau ar Bdammegion Crisí yn Mat. xm...... 188 YBeibì..................................... 189 Cybydd yn cael ei gcsbi........................ 189 -Ll wch Aur.................................... 189 Amrywion...............'..................... 190 Yr Ysgol..................................... 191 Pennod y Golygydd.............-.;............. 192 At eiu Derbynwyr.............................. 192 YR 'HYFFORDDWR.' Gwaith anhawdd fyddai penderfynu yn mha fodd y darfu i'r Pareh. Thomas Charles wneuthur mwyaf o les, pa un ai trwy y sefydliadau daionus y bu efe yn ymdrechgar i'w cychwyn a'u cyn- northwyo, neu ynte trwy ei ysgrifeniadau. Ac os edrychir ar ei ddeínyddioldeb yn y ífordd olaf a enwyd, nid mor hawdd ag y gallai llawer un dybied yw gwybod pa un sydd wedi bod yn fwyaf o fendith i'r Cymry, y ' Geiriadur' neu yr ' Hyfforddwr.' Ond afreidiol yw rhoddi y flaenoriaeth i'r naill mwy nag i'r llall: oblegid yr oedd pob un, y < Geiriadur' a'r * Hyfforddwr,' yn angenrheidiol yn ei le priodol; a phob un yn meddu rhagoriaethau nad ydynt yn perthyn i lyfrau cyffelyb mewn un iaith arall. Bydd y dywediad hwn yn swnio yn ddyeithr i'r rhai hyny sydd yn arfer meddwl nad oes dim da wedi dyfod erioed o Nazareth; ac yn fwy dyeithr drachem i'r dosbarth hwnw sydd yn edrych ar egwyddori pìant íel y gwaith mwyaf distadl, ac yíì cyfrif yr < Hyfforddwr' yn llyfryn bychan, disylwedd, yr hwn a gyfansod'dwyd heb ddim trafferth, a'r hwn nid oes nemawr angen am dano yn nghanol manteision yr oes wybodus hon. Ond er yr holl ymffrost, j mae àchos i arnheu a ydy w yr oes hon mor oleu ag y tybia rhai ei bod: a pha fodd bynag am hyny, y mae yn eithaf sicr, os na pharheir i ymarfer yn ddyfal â'r gwaith o egwyddori, y bydd ein gwlad yn fuan wedi colli y rhagoriaeth sydd yn perthyn iddi mewn gwybodaeth grefyddol. Ac os meddylir am ddal i fyny yr hen arfer dda o egwyddori, y mae yn anhawdd gweled pa fodd y gellir gwneuthur heb ryw fath o holwyddoreg, nac yn mha le y gellir cael un gwell na'r ' Hyfforddwr.' Heb fod yn rhy helaeth, y mae yn cynnwys crynodeb cyflawn o holl athrawiaethau yr efengyl: ac er nad yw yn cymeryd arno ymgadw at ddosbarthiad celfydd- ydol, eto os edrychir, nid yn unig ar yr yehydig eiriau a roddir fel cynnwysiad yn nechreu pob pennod, y rhai nis gallant gyfêirio ond at y prif foter yn y bennod hono, eithr yn hytrach ar ddilyniad yr holl faterion yn y pennodau, ceir gẅeled mai un o'r pethau sydd yn ei hynodi yw ei drefnusrwydd. Ond ei ragoriaeth penaf yẁ ei gyfoethogrwydd. Dichon fod ereill mor drefnus ; a diau fod llawer yn dosranu pynciau duwinyddiaeth gyda mwy o gywreinrwydd ar- ddansoddol, ond ni ddygwyddodd i ni wybod am un hoìwyddoreg yn cynnwys mewn cyn lleied lle gymaint o fer a brasder y Beibl ag a geir yn yr ' Hyffbrddwr.' Ond nid ar unwaith y daeth yr ( Hyfforddwr' i'r agwedd wrth yr hon yr adnabyddir ef gan blant yr Ysgolion Sabbothol yn y dyddiau hyn. Mor bell oddiwrth fod yn Uyfryn a gyfansodd- wyd heb nemawr o drafferth, mae yn ymddangos fod yr awdwr hybarch wedi cymeryd llawer o boen er niwyn ei berffeithio; ac nid anfuddiol fyddai ei olríiain o'i ddechreuad, pe buasai ein gofod yn caniatau, i weled y cyfnewidiadau yr áeth trwyddynt cyn ei ddŵyn i'w ffurf bresen- nol. Un o'r gorchwylion mwyaf addysgiadol yw cymharu gwahanol argraffiadau o lyfrau poblogaidd wedi eu dwyn allàn dan olygiaeth yr awdwr. Er engraifft, os cyferbynir yr argraff- iadau cyntaf â'r rhai. diwêddaf o Draethodau Foster, canfyddir mor ofalus oeddefe i wneuthur pob peth yn y modd goreu, mor fanwl i lanhau ei waith oddiwrth frychau na fuasai neb ond efe ei hun yn debyg o'u gweled, mor awyddus i chwilio am y geiriau mwyaf cymeradwy, a'r fath sylw a roddid ganddo i iawn drefniad pob ymadrodd. Os awn drachefn at yr argraffiadau cyntaf o Gyrff Duwinyddiaeth Melanchthon a