Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wimìt% ẃ ®&t& SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG. Cyhoedôedig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. I.—Rhif. 11.] DYDD SADWRN, MAI 21, 1859. [Pbis Un Geiniog. orgnntoBStafc. T Parchedig John Charles, Gwalchmai............ 161 Fferylliaeth.................................... 164 Heb. xi. 16.................................... 165 Bjdd Wyliadwrus...............,.............. 166 WilliamTyndale, oyfìeithydd cyntaf y Beibl i'r Seisneg 166 YTrsethawd Buddugol.......................... 167 Y Wasg....................................... 168 Pethau Cyffredin.............................. 169 Gemau........................................ 169 Y Genadaeth Iuddewig a sir Fon.................. 170 Deng Noswaith yn y " Black Lion.".............. 170 Holiadau ar Dammegion Crist yn Mat. xiii....... 172 YrYsgol...................................... 173 Newydd Da. Tôn—Cyflwynedig i'r "Band of Hope.'* 174 Yr Adfywiad Crefyddol yn Mhennal, Meirion....... 174 Pennody Golygydd............................ 175 Y PARCHEDIG JOHN CHARLES, GWALCHMAI. PENNOD III. Yr oedd serchawgrwydd John Charles yn gwneyd ei gymdeithas yn hyfryd ac adfywiol. Carchar ac alltudiaeth ydyw bod gyda dyn o intellect sych—dyn heb serchiadau: y mae ei galon ddiserch yn peri fod yr awyrgylch o'i gwmpas yn oer a rhewllyd. Pan siarada, bwrw ei ia yn dameidiau fydd hyny, nes rhynu dyn drwyddo. Gwaredigaeth fawr, onide ? fydd cael dianc i iywle o'r íatli Greenland oer. Ond gyda John Charles, gwlad yr haf oedd hi bob amser, lle yr oedd awelon balmaidd, tynerol, ac iachusol yn adloni y natur. Nid oedd dim gochelgarwch Phariseaidd, na sobrwydd gwneyd yn perthyn iddo ef; yr oedd hyny yn annghyd- weddol â'i galon gariadus a'i feddwl diniwed. Yr oedd rhyw esgeulustra, ond ei fod heb fod yn afreolus, o'i gwmpas : rhywbeth yn debyg i'r eiddo tad anwyjgu yn nghanol ei deuluhoff. Nid oedd byth yn aberthu serch er mwyn am- ddiffyn ei dignity. Clywsom un gŵr parch- edig, wrth osod allan rinweddau ei gyfaill trancedig, yn adrodd, fel rhan o'i ganmoliaeth iddo, y dystiolaeth a ganlyn o eiddo rhywun tra chydnabyddus âg ef,—" He never uttered a joke." Peü ydym pddiwrth feddwl fod hyn yn hagrith yn.y gweinidög ffyddlon y llefàrid fel hyn am dano; ond rhaid dyweyd fod cymer- iadau hollol wahanol iddo ef, ac eto yn hynod am eu duwioldeb. Un duwiol iawn oedd Ri- chard Lloyd, Beaumaris, ac un jocular iawn hefyd: treuliodd ei fywyd gan fod yn ddigrif, yr oedd yn ddigrif wrth farw, a diamheu genym iddo fyned i fwynhau y digrifwch syàà yn dragywydd ; ac nid yw yn darostwng dim ar y pregethwr hyawdl, tanllyd, difrifol hwnw— John Elias,—yn ein meddwl ni, ini ddeall y byddai yn myned yn blygion gan chwerthin yn ei gymdeithas. Y mae dynolryw yn wahanol iawn eu tymherau. Nid newid natur y mae crefydd, ond santeiddio yr hyn sydd naturiol, a symud yr hyn sydd lygredig. Ýr un bywyd sydd yn y cawr a'r baban, yn y Circassian a'r Mongolian, y Negro, y Malay, a'r Indian ; 'ie, yr un bywyd, ond dan filoedd o wahanol ffurf- iau. Yn y greadigaeth afresymol, yr ydym yn canfod yr oen a'r llew—y golomen ofnus a'r eryr beiddgar—yr elephantiaid mawr a'r milod mân. Ewch yn îs, chwi gewch Aveled y frwynen yn plygu o flaen yr awel, y cedrwydd yn herio yr ystorm, y lili wan a'r dderwen gi*ef—aneirif lu o flodau, llysiau, a choedydd o bob lliw, a llûn, a maintioli. Beth sydd yna ?—undeb mewn amrywiaeth. Felly hefyd yn y greadigaeth newydd : yr un bywyd ysbrydol sydd yn yr holl gredinwyr, ond yn ymddangos mewn gwa- hanol ffurfìau yn ol fel y byddo y gwahaniaeth mewn tymherau. Yn John Charles daeth i gyfarfyddiad â serchiadau cryfion; cwrs naturiol y rhai hyny oedd, bod yn rhydd, agored, siriol, a chyfeillgar. Cariodd yr ansoddau hyn gydag ef hyd ei oriau olaf; trwy hyny cafodd y fraint o gartrefu yn mynwes ei frodyr tra y bu yn eu plith, a phan fu farw dygwyd ef gan angelion i fynwes Abraham. Cyn terfynu, hwyrach mai nid anfuddiol fyddai gwneyd ychydig nodiadau, yn ych- wanegol, ar ei gymeriad gweinidogaethol; ac yma gellir sylwi fod ei serchiadau cryfìon wedi eu gosod i weithredu ar wirioneddau yr efengyl yn gymhorth arbenig iddo i gyflawni yn deilwng ei swydd uchel fel pregethwr. Y mae yn hysbys ini fod yn angenrheidiol cyn y gellir cael golwg gywir ar, na derbyn argraffiadau priodol oddiwrth unrhyw beth, fod cydnawsedd