Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASÄNAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG. Cyhoeddeäig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. I.—Rhif. 4.] DYDD SADWRN, CHWEFROR 12, 1859. [Pris Un Geiniog. YTestyn Derbyniedig........................... 49 Ephrata........................................ 51 Cadw—Mi gei................,................. 52 Teml Jerusalem................................ 53 Cymhwysderau A thraw Defnyddiol yn yr Ysgol Sab- "bothol........................... ........... 54 LlithHen Gyniro................................ 55 TyFyNhad...................................57 YWasg..................... .................. 58 Pethau Cyffredin................................ 58 Paham nad ydwyf yn Gristion ì.................... 59 Yr wyf yn ymyl Caitref.......................... 60 Doethineb rnewn Digrifwr........................ 60 Joha Jones : Y Dyn Hunanol..................- .. 60 Llwch Aur.................................,.. 61 Difyrion....................................... 62 Adfywiadaü Crefyd<îoì yn Nghymru................ 62 Y Golygydd at ei Ohebwyr........................ 63 Y TESTYN DERBYNIEDIG. " Gair ein Duw ni a saif byth," gwaeddai y proffwyd efengylaidd, chwe chanrif ar ugain yn ol; ac o hyny hyd yn awr y mae miloedd o leisiau wedi chwyddo y byrdwn. Gwir fod llawer, gyda sel deilwng o well achos, wedi cynnyg siglo ffydd y Cristion yn nwyfoldeb a geirwiredd yr oraclau dwyfol; ond y mae y cynnygion oll, hyd yn hyn, wedi disgyn yn ol yn genllysg dif äol ar benau diofiydecíig y sawl a'u gwnaethant; a gallwn ni, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd, mewn ymflrost santaidd, gyduno âg Esaiah i waeddi, " Gair ein Duw ni a saií byth." Nid oes unrhyw wyddor newydd wedi cyfodi nad ydyw gelynion yr Ysgrythyrau wedi ym- drtchu â'u holl egni ei rhesu gyda'u byddinoedd eu hunain ; ac y mae gwyddorion ieuainc, fel dynion ieuainc, yn eu hieuenctid, heb wybod yn iawn pa beth i'w gredu, na chyda phwy i ym- uno ; ond wedi cyrhaedd oedran addfetach, a gwybod eu meddyliau eu hunain yn well, y maent olí, yn ddieitbriad, yn cymeryd eu bedyddio i ffydd y Bibl, ac yn dyfod allan yn amddiffynwyr cedyin iddo, gan wasgar difrod a dinystr yn mysg rhengöedd ei wrthwyneb- ẅyr. Heb son am wyddorion henach, felly y bu gyda Daeareg. Uchel oedd yr oroian a gyfbdẃyd gan anffyddwyr o bob gradd ar ym- ddangosiad cyntaf y wyddor hon. Tybient yn sicr fod tystiolaeth y creigiau yn dinystrio am byth yr hanesiaeth Foesenaidd am y greadig- aeth; meddylient fod dyddiau Cristionogaeth wedi eu rhifo, fod ei chwymp yn anocheladwy; Uawenhaent jti ei chwymp, ac ymogoneddent yn ei gwaradwydd. Ceid hefyd ambell dduw- inydd diniwaid yn crynu rhag y canlyniadau; ac, yn ei bryder, yn condemnio pob ymchwiliad Daearegol. Ond erbyn heddyw y mae yn berífaith eglur fod ofhau caredigion y Bibl yn ddisail, a goríoledd ei gaseion yn rhy gynarol. Un gwasanaeth pwysig a wnaeth Daeareg ydyw profì, tuhwnt i bob cysgod o amheuaeth, fod Dechreuad wedi bod, a bod Creu wedi bod; bu llawer dechreuad a llawer creadigaeth. Ac wrth edrych ar y pwnc o safle Ddaearegol, nid ydyw ond megys doe, neu gynnau, er pan fu y gallu creawl ar waith. Gallwn sylwi hefyd fod y Theory of Degradation y mae Hugh Miller mewn cymaint cariad â hi yn ei " Foot- prints," a dyweyd y lleiaf am dani, yn gorph- wys ar resymau Uawn cyn gadarned, a chanddi lawn cystal hawl i gred ag sydd gan y Theory of Developemmt, a goleddir, er nad yw yn wreiddiol iddo, gan awdwr anhysbys y ' Ves- tiges.' Ond nid yw hyn ond ychydig o'r hyn sydd gan Ddaeareg i'w ddyweyd mewn cadarn- had i " Air ein Duw ni." Felly y bu yn y ganrif ddiweddaf gyda golwg ar Feirniadaeth Ysgrythyrol. Parodd dargan- fyddiad a chyhoeddiad cynnifer o wahanol ddar- lìeniadau o'r Bibl i'r grechwen fawr gyfodi o wersyll yr anfíj'ddwyr. BreuddwydienlAyr ys- gydwid j-n drwyadl feddwl y bobl; fod Crist- ionogaeth mewn perygl uniongyrchol o wan- ychu a marw ; ac y cawsent liwythau y spree o gadw noswyl iddi. Dychymygent weled yr eglwys yn wasgaredig, ac wedi ei gordöi â chywilydd MTth weled darnau rhwygedig ei Magna Charta. Ond yma eto siomwyd eu dysgwyliadau, a gwywyd èu gobeithion. Y mae yr hen Lyfr yn dyfod drwy y prawf yn ani'hydeddus. Gellir yn awr, gyda'r tawelwch mwyaf, wahodd holl anffyddwyr yr oesoedd yn ngeiriau y gwirionedd ei hun :—" Amgylchwch Seiòn, ac ewch o'i hamgylch hi,"—a oes oleich aifau dinystriol chwi arni ? "Rhifwch eu