Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWffi FEDYDDIWR. Cyf. I.] MEHEFIN, 1842. [Rhif. 6. CELANEDD Y GELYN MAWít. GAN DYFNWAL. Daeth marwolaefh yn un diluw trych- inebus i'r byd, ac y mae angeu, gelyn anghymodlon teulu y llwch, yn cymynu y goedwig ddynol lawr drwy yr holl oesau, fel nad oes yma ddinas barhaus i neb; oblegid y tadau a drosgiwyddwyd dros gaerau amser, yr hynafiaid a ymlidiwyd dios yr Iorddonen fawr, ac yr ydym ninnau y bywiolion yn y fath berygl oddi- wrtli y dinystrydd, fel nad oes wybod na fyddwn yn cael ein rhifo yn llechres y marwolion y fynyd nesaf. Y mae rhyw wylofain chwerw iawn yn y glyn; y mae rhyw ocheneidiau trymion yn yranialwch; y mae rhyw drydarcwynfanus tuagodreon y mynyddoedd ; a pha beth ydyw yr achos o hyn? Oni lewyrchodd yr haul ary dyn cyntefig yn Eden, pan droediai Iwybrau dedwydd gorchymynion Dnw Iòr mewn purdeb a pherffeithrwydd, yn ddiogel oddiwrth bob niweidiau? Onid oeddynt holl ffynhonau natur yn ddiwenwyn i gyrff dynoliaetho fewncaerau ybaradwys ddaearol? Onid bywyd ydoedd i'r eti- feddiaeth tra y gwelai ei Grewr fod yn dda i'w adaei o fewn terfyn amser; ac onid bywyd heb farwolaeth ydoedd i fwyuhau byth pan symudir ef i fro an- farwol i fyw? Y mae hyn yn wirionedd, ond edrychwnyn ol tuag Eden ac wylwn! Gwelwn y cyinylau yn crogi uwch ben y fangre ddedwydd, lle yr ydoedd y She- cina gyneu yn chwarae, a chysuron y nef yn marchogaeth ci belydron i fynwes y dyn. Edrychwn yn ol tuag Éden ac wylwn ! Gwelwn y cyntefigion daearol yn droseddwyr gerbron eu Duw, eu traed ar dir y felidith, eu mynwesau yn llawn tònan trochionog, euogrwydd fel y môr yn berwi ac yn dygyfor o'u mewn, a hwythau yn crynu fel y dail wrth ddysgwyl dis- gyniad y dwrn tragywyddol ar eu penau, ì'w suddo yn nyfnderau cerwyn fawr dig- ofaint yr Hollalluog Dduw, heb godiad o'r codwm yn oes oesoedd! Edrychwn yn ol tnag Eden ac wylwn! Gwelwn eiu rhi- CVF. 1. eni yn cael eu hynilid allan o borth mawr yr ardd baradwysaidd, wedi eu diosg o'r harddwch a'r gogoniant gwreiddiol perth- ynol iddynt; ac yn eu dilyn angeu mawr, a'i gawell saethau ar ei gefo, a'i fwa wedi ei barotoi i ddinystr, ac yn gweryru yn y drem ar y gelanedd a achosai yn mhlith y teulu hwn,hyd oniddymchwelid ei deyrn- as, ac y Hyngcid ef yn llwyr gan had y wraig, a dtlatguddiuyd i Adda pan ddi- rwynwyd ef i fynu o waelodion y cymydd gan linyrtau yr hen addewid ag sydd wedi diogelu bywydau nifer y tywod mân o blant y tomenau am byth. Y mae celaneddau trychinebus yn cael eu hachosi, oblegid dibrisdod dynion o fy wydau eu gilydd. Y peth mwyaf gwrth- ddynol a ddaeth i'r byd erioed ydyw rhy- fel, a gellir yn gyfiawn ystyried hwn yn un o'r melldithion mwyaf ag a ddaethant i'r byd yn nghynffon pechod. Pan ddar- lienoin ddalenau hanesyddiaeth yr oesau, a phan adawom i'n myfyrdodau grwydro ar hyd y meusydd yr ymgydiodd byddin- oedd rhyfeigar mewn cad, y mae yn ddigon i wneud i'n calonau waedu a'n cnawd grynn! Y bechgyn glanaf ag a fagwyd erioed, yn ymfyddino wrth yi ugeinian a'r cannoedd o fiioedd, gan daclu eirf dinystr, ac ymbarotoi i'r lladdfa, er na welsant eu gilydd erioed, ac heb un sill o ymrafael wedi bod rhyngddynt! Y llu- oedd yn ymhwylio yn miaen dan eu ban- ieri, ac mewn gwaed oer yn darparu trangcedigaeth i'w gilydd! Ust! clywch yr udgorn yn seinio i'r frwydr; y meirch draw yn gweryru; y floedd fawr yn cael ei rhoddi; y magnelau yn rhuo; y cledd- yfau yn cael eu diweinio; a gorchwylion dinystr yn myned yn mlaeu gyda phrysur- deb! Ÿma y mae angeu yn gweryru yn nifer y lladdedigion, gan eu trosglwyddo yn filoedd myslyd i'r byd tragywyddol! Y mae rhyfel bob amser yn gynhauaf cynnyrchiol i frenin dychryniadau, oble- gid yn gyffredinol y mae y pläan marwol