Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW. CHWEFEOE, 1866. {aìm Èomfa. " A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti." Yr oedd John Pounds yn un o'r ardderchog lu i'r hwn y perthyn John Howard, ao Elizabeth Fry, a Miss Dix, o'r America, a Florence Nightingaîe, a Mary Capenter. Hynodir y dosparth hwn gan haelfrydedd eu cymeriad, a'u ffyddlondeb i gario allan eu cynlluniau dyngarol ar ran yr anwybodus, yr anonest, yr anniwair, y claf, a'r amddifad. Enwogodd John Pounds ei hun fel sylfaenydd yr Ysgolion Carpiog {JRagged Schools) yn y wlad hon. Ysgolion yw y rhai hyn i gynull iddynt blant gwaethaf a mwyaf dinawdd ein trefydd, nad oes neb yn edrych ar eu hol, nac yn gwneyd un ddarpariaeth ar gyfer eu haddysg. Maent erbyn hyn wedi eu sefydlu yn y rhan amlaf o'n trefydd mawrion; ond John Pounds oedd y cyntaf i gychwyn yn yr achos. Yr oedd yn enedigol o dref Portsmouth, lle y gwelodd oleuni gyntaf ar un o hir ddyddiau yr haf, yr 17eg o Fehefin, 1766, càn mlynedd yn union i Fehefin nesaf. Llifiwr oedd ei dad yn y dock-yard freninol yn y dref; a rhoddodd ei fab, yr hwn oedd y pryd hwnw yn llanc cryf iachus, yn brentis gyda saer llongau yn y yard, pan nad oedd ond deuddeg oed. Ond ar ol gwasanaethu ei brentisiaeth am dair blynedd, pan yn bymtheg oed, cwrdd- odd â damwain brudd, yr hon a newidiodd gwrs ei fywyd yn y dyfodol. Trwy gwympo i doch sych, torodd a dadgymhalodd un o'i forddwydydd, a derbyniodd y fath niweidiau eraill ag