Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. XIII.] GOEPHENAF, 1854. [Rhif. 151. YE ENFYS. Ni a gnwn fwrw golwg ar natur ac ys- grythyroldeb hanesyddiaeth yr Enfys, Bwa gwlaw, (Rainbow). Gelwir ef hefjd Bwa y Cyfammod. Mewn cysylltiad â'rcyfammod a wnaeth Duw â Noah, ar ol i'r dwfrdiluw orchudd- io y ddnear, a dyfetha pob sylwedd byw, oddieithr Noah a'u deulu, fe ymroddodd Duw niewn cyfammod rhagluniaethol â Noah, na fyddai i ddyfroedd diluw mwy orchuddio y ddaear, Gen. ix, 8—17, "A Duw a lefarodd wrth Noah, ac with ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfammod â chwi, ac â'ch had ar eich ol chwi; ac â phob peth byw, yr hwn sydd gyda chwi, â'r ehediaid, a'r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o'r rhai oll eydd yn myned allan o'r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. A mi a gadarnhaf fy nghyfammod â chwi, ac ni thorir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni bydd diluw mwy i ddyfetha y ddaear. A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyf- ammod, yr hwn yr wyf fi yn ei roddi rhyngof fi â chwi, ac â phob peth byw a'r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragyw- yddol. Fy mwa a roddais yn y cwniwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof tì a'r ddaear. A bydd pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. A mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd ÿn ddiluw mwy, i ddyfetha pob cnawd. A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio y cyfammod tiagywyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear. A Duw a ddywedodd with Noah, Dyma arwydd y cyfammod,yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar v ddaear. ' ' At yr enfys y byddai Noah yn cyfeirio fel arwydd neu leferydd o'r cyfammod a wnaeth Duw ag ef. Nid oes dim am- mheuaeth nad oedd yr enfys yn bodoli o'r dechreuad, ac nid fel y myn rhai ddweyd, mai cael ei greu a wnaeth i'r dyben ac ar yr achlysur hyny,—fel y mae yn effaith natunol o belydr yr haul yn disgyn ar dcyferynau y gwlaw yn y cwinwl, a thrwy ad-dafliad, ac adlewyrchiad o'r pelydrau Cyf. xiij. hyny, yn cyfansoddi enfys. Y mae Duw gwedi dewis, o ganlyniad, ei osod fel lleferydd o'r addewid hono a roddodd efe i Noah fel cynnrychiolwr dynolryw, hyd ddiwedd y byd. Y mae amryw o resymau tarawiadol yn teilyngu ein sylw am osodiad yr enfys fel arwydd y cyfammod. Nid yw yr enfys i'w weled ond pan y byddo dynion yn cael eu dychrynu am ddiluw arall. Nid oes ammheuaeth nad oedd hiliogaethau Noah, am amryw genedlaethan, yn cael eu dych- rynu yn fawr, pan y byddent yn gweled y cymylau duon yn ymestyn dros y nefoedd, ac yn cau rhyw ddosparthiadau o'n daear ni mewn tywyllwch mawr, a rhyw bethau dychrynllyd yn cael eu darogan yn yr ym- ddangosiad ; a phan y byddai y cymylau daroganaidd hyn yn ymddangos, yna y byddai yr enfys i'w weled. Mae yn wir fod plant dynion yn dychrynu pan y byddo yr elfenau yn cael eu defnyddio gan eu Creawdwr, i fod yn wialen cosp ar y byd am anufydd-dod i'r Arglwydd fel eu llyw- ydd moesol. Ond pan y mae dywyllaf ar blant dynion, tiwy ŵg rhagluniaeth, fe fedr Duw ddangos na phalla ei drugaredd dros byth, megis ymddangosiad yr enfys, fel arwydd y cyfammod a wnaeth Duw â dyn, na phalla amser hau a medi, haf a gauaf, oerni a gwres, holl ddyddiau y ddaear. Mae yn wir fod Duw o angen- rheidrwydd yn peri fod yr elfenau mewn natur yn gweithredu allau o'u llinell gyff- redin, pan y byddo ymddygiadau dynion yn galw am hyny. Mae y neíoedd weith- iau yn bres uwch ein penau, y ddaear yn hollti yn agenau, am nad oes na gwlith na gwlaw yn disgyn arni ; pryd araíl, y mae y cymylau yn tywallt i ìawr y gwlaw raawr,—ei nerth ef yn peryglu had yr hauwr, a bara y bwytäwr, ac yn siomi dysgwyliad prydeius y llafurwr diwyd. Ond pan y maë y wialen ragluniaethol yn cael ei phriodawl etfaith ar y wlad, mae Duw yn cofio ei gyfammod, yn peri i'r enfys ymddangos yn y cwmwl, a sicrhau defodawl wythnosau. Mae yr enfys wedi ei gysylltu â'r ym- ddangosiadiiu mwyaf mawreddawg o'r go- goniant dwyfawl. Y mae enghreifftiau dangosiadol o'r gosodiad hwn yn cael eu dangos yn dra gogoneddus jn y Gair 2 c