Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VIII.] CHWEFROR 1849. [Rhif. 86. YR EGWYDDORION DECHREUOL MEWN CRISTNOGAETH. LLYTHYR I. Y Testun.—Blaen-nodion.—Yr Egwyddor laf, "Diwygiad oddiwrth weith- REDOEDD MEIRWON." EGWYDDOR YR 2il, " FfYDD TUAGAT DdüW," &C. " Am hyny, gan roddi heibio egwyddorion cyntaf athrawiaeth Crist, awn rhagom at gyflawn ocd, (" let ua advance toward a mature state of religious knowledye."—S'îVART.) heb osod i lawr drachefn y sylfaen gyda golwg ar ddiwygiad odd'iwrth weithredoedd meirwon, (" worhs which cav.se death."— Stuart.) a ffydd tuagat Dduw ; gyda golwg ar atbrawiaeth trochiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw a'r farn dragwyddol; a hyn a wnawn, os caniatà Duw."— Oraclau Bywiol, Heb. vi, 1—3. Blaen-nodion. Mae eisiau i'r anwybodus wybod taw Cardinal Hugo.tua'r flwyddyn 1240, ddos- barthodd yr ysgrythyrau gyntaf yn bennod- au; a bod y dosbarthiad i raddau peryglus yn anmherffaith:—Er yr holl fanteision cyd- fynedol ä dyfais felly, y mae un anfantais sydd o bwys dirfawr, sef yw hyny, damio cysylltiadau a ddylent yn mhob modd fod yn gyfain. Mae yr anfantais hona yn amlwg yn y cysylltiad dan sylw ; canys y mae diwedd pen. v, a dechreu pen. vi, wedi eu bwriadu i fod yn nghyswllt â'u gilydd; a'r hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai dyn eu gwahanu. Yr un peth sydd yn cael ei olygu wrth "egwyddorion cyntaf athrawiaeth Crist," pen. vi, 1, ac "egwyddorion dechreuol athrawiaeth Duw;" (the first elements of the oracles of God."—Stuart.) pen. v, 12. Amlwg yw fod yr ysgrifenydd yn ymb%vyllo gyda golwg ar ei bwngc;—mewn gair, yn ei adael, (adn. 11,) heb ddychwelyd ato cyn pen. vi, 20, ac yn gweinyddu cerydd ar y sawl a gyfarchai oblegid eu babaneiddiwch meddyliol, a hwy wedi derbyn manteision i fod, hyd y nod yn athrawon. Adn. 11—14, " Am yr hwn, (Melchisedec) y mae genym lawer idd eu dywedyd, ac anhawdd eu deongli, gan eich bod chwi yn hwyrdrwm eich deall. Canys lle dylasech, erbyn hyn, fod yn athrawon, y mae arnoch eisiau dysgu i chwi drachefn egwyddorion dech- reuol athrawiaeth Duw; ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. Cyf. viii. Am hyny, {wherefore) gan roddi heibio egwyddorion dechreuol athrawiaeth Crist, awn rhagom at gyflawn oed, &c.; a hyn a wnawn, os caniatâ Duw." Pell yw ys- grifenydd yr Epistol oddwrth feio nabych- anu yr " egwyddorion dechreuol," wrth ddywedyd fal uchod ; y sawl ydynt yn ei ddeall felly a'i «m-ddeallant:—nid hyna yw ei amcan: Y mae llaeth mor werthfawr yn ei le, ag ydyw bwyd cryf; os nid, yn wir, yn hanfodol i feithriniaeth bywyd. Beio y bobl y mae efe am aros yn ddigyffro gydayr "egwyddorion" hyn, yn lle myned rhagddynt ar gynydd Duw, fel " plant anwyl." Gwerthfawr gan y Tad weled ei blant yn cynyddu. Yr athraw hefyd a ymlona wrth weled ei ddysgyblion, drwy ddiwydrwydd, ar eu cychwyniad. Ond cyflwr anghynyddol yr Hebreaid, dan gymaint o fanteision, a achosai i'r apostol achwyn arnynt. Mae yn perthyn i bob cyfundraeth a chymdeithas, egwyddorion neu elfenau dechreuol.—Elfenau dechreuol Darllenydd- iaeth yw A, B, C. Elfenau dechreuol Rhifyddiaeth yw, 1, 2, 3, &c. Elfenau dechreuol Odyddiaeth ydynt, y rhai a ddysgir yn y ddefod o wneud Odydd. Ac elfenau dechreuol Cristnogaeth ydynt, " diwygiad oddiwrth weithredoedd meirw- on, ffydd tuagat Dduw," &c, &c. Mae y dechreu yn hafodol i'r canol, a'r canol yn hanfodol i'r diwedd: ni ellir bod yn ddar- llenwr heb wybod y llythyrenau; na bod yn rhifyddwr heb wybod y rhifnodau : ac