Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] HYDREF, 1847. [Rhif. 70. P R E G E T H , A DRADDODWYD I FYFYRWYR ATHROFA PONTYPWL, Awst 4, 1847. GAN Y PARCH. D. ÜONES, CAERDYDD. "Gan- Edrych ar Fy nghyd frodyr yn rhwymau Crist, nid wyf yn sefjil yma i roddi i chwi gyfarwydd- iadau Athrofâol, pe yn addas i hyny, ni byddai y fath ymddygiad ond anfri ar eich Athraẁon cymwys ac uchel-glod, gan y rhai y derbyniwch eich addysgiad, yn Ieithyddol, Duwinyddol, ac Hanesyddol. Nid wyf ychwaith yn sefyll yma i lunio i chwi ffurf o gredo grefyddol, byddai hyny yn drosedd ar eich hawliau i famu drosoch eich hunain; heblaw i fod genym gorffcyfanedd o athrawiaethau wedi ei gael trwyysbrydoliaeth: achyderwyfygwnewch ymdrech fawr idd eu deall,—idd eu dysgu i ereill, ac aros ynddynt. 1 Tim. iv, 14, " Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros." Ond yr amcan mewn golwg yw, rhoddi ychydig gyfarwyddiadau ynghyd ac anogaethau yn yr yrfa weinidogaethol, y proifeswch chwi eich bod wedi eich galw iddi,—y credaí yr eglwysi a'ch anfonodd yma eich bod,—y creda y cyfeillion a'ch cynhaliant yma eich bod: ac hefyd y bydd yn rhaid i'r eglwysi a'ch galwant oddiyma, i'w bugeilio, gredu eich bod, cyn y gallant ddysgwyl, yn gyfreithlon, wir les, er eich cael atynt, iddeu harolygu yn yr Arglwydd. Nyni a gawn seilio ein nodiadau ar y geiriau a ddarllenwyd, yn y drefn ganlyn- ol:_ I. Gan Edrych ar Iesu, fel y ffyn- HONELL FAWR o'r HON Y MAE I CHWI DDERBYN POB PETH A GYFANSODDA EICH CREFYDD BERSONOL. Crefydd bersonol sydd hanfodol angen- rheidiol i gyfiawniad eich swydd yn iawn. Nid yw dyn yn addas, heb grefydd bersonol, i ddàl unrhyw gysylltiad ag achos Crist: ac os nad ellir bod yn aelod cyffredin, neu i wisgo y swydd ddiaconaidd yn iawn, heb Cyf. VI Iesu,"—Heb. xii, 2. grefydd bersonol; pa fodd y gellir meddwl am gyflawni y swydd bwysicaf hon, heb y cymwysder haufodol o grefydd bersonol! Yr ydym oll i gyfarfod yn yr un man am grefydd bersonol; y mae llawer o amryw- iaelh yn yr eglwys ar y ddaear, fel y mae yn mhob man arall o feddiannau y Gor- uchaf. Graddoliaethau amryw o'r apostol talentog, i'r gwanaf yn Seion; ond y maent oll yn cwrdd yn yr un lle am eu cadw,—am grefydd bersonol, " Gan ed- rych ar Iesu" am hyn oll. Na ryfeddwch, anwyl frodyr, fy mod yn galw eich sylw difrifolaf at hyn ; oblegid y mae yn alluadwy i wisgo swydd mor uchel a hon yn eglwys Crist, ac eto fod yn ymddifad o grefydd bersonol.— Yr oedd Judas yn apostol. Digon yw dweyd—Y mae yn alluadwy,—Arswydwn. Yr oedd ofn hyn ar yr apostol, 1 Cor. ix, 27 : "Ond yr wjf fi yn cospi fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth ; rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i ereill, fod fy hun yn annghymeradwy." Ié', na ryfeddwch fy mod yn gwasgu hyn at eich meddwl, oblegid y pwys dychrynadwy a berthyn i fod yn y swydd hon heb grelydd bersonol! Y mae yma y rhagrith dyfnaf, y pechod mwyaf, a'r gospedigaeth drymaf. O ! feddylddrych arswydol, a brawychus, __Dyn yn proffesu myned dros Dduw ac yn elyn iddo—ün yn dywedyd am arswyd- ion uffern ac ar y fibrdd tuag yno ei hun— Un yn dweyd am gariad y Gwaredwr heb erioed ei brofi ei hun,—ie, dyn yn proffesu gwylio dros eneidiau heb erioed weled gwerth, neu yr angen am gadw ei enaid ei hun' Nid yw yr anogaeth o ganlyniad yn ddiangen. Edrychwch ar Iesu fel y ffyn- honell fawr, o'r hon yr ydycb i dynu eich 2Z