Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] MEHEFIN, 1846. [Ríiif. 54. PEEGETH, AR Y BUDD O WNEUTHÜR EIN GALWEDIGAETH A'N HETHOLEDIGAETH YN SICR. Gan J. JAMES, Penybont. At Olygydd Y Bedyddiwr. A N WY L GYFAILL,— Caìûutewch imì ychydig le yn eich Misolyn i anerch eich darllenwyr, ac- yn neillduol fy anwyl gyfellion yn Mhenybont a'r ardal. Gwir diymwad ydyw yr hyn a fyneg- odd fy hen frawd ( a diacon) yn y rhifyn am y mis hẁn, o barth cais yr eglw'js am i mi argraffu yny BhDYDDlWR y bregeth a draddodais ar 2 Pedr i, 10. Gwir hefyd, nad oes awydd arnafi ymddangos trwy y wasg: eto y mae y fath alwadau a hyn yn deilwng o'm hystyriaeth. Wedi darllen llinellau Mr. T. R., penderfynais i geisio adysgrifenu fy ngolygiadau fel y gwelwch hwynt, Diau genyf nad perffnith fy ngwaith i, er eifod gyda gradd o ddwys fyfyrdod. Sicr yw, yn ol pob arwyddion, y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio; ond yr ydwyf yn bwriadu gwneuthur fy ngoreu yn fy mywyd, fod o les i'm cyd-otsolion, a thrwy y wasg »'r oesau dyfodol, gyda bendith Duw. Ÿr ciddoch yn yr efengyl. Penybont,Ebrill20, 1846. JOHN JAMES. 2 PEDR I, 10. " () herwydd paham yn bytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigseth a'ch betboleriigaelh yn sicr: caiiys tra bydduch yn gwneutbur y pethau hyn, ni litbrwch chwi ddim bytb.'' Yr epistol hwn o eiddo Pedr at yr Iudd- ewon gwasgaredig, pa rai oedd wedi pro- ffesu Cristnogrwydd, sydd yn eithaf defn- yddiol i ni ac>ereill hyd ddiwedd amser. Tybied yr wyffod yr anogaeth a gynhwysa ein testun yn addas i bob pregethwr ei mabwysiadu yn ei weinidogaeth yn mhlith aelodau crefyddol. Cyn myned yn nihellach, galwaf eich hystjriaethat yr adnodau cysylltiadol, sef y 5, 6, 7, 8, 9, a'r lleg. Ceisiaf ymdrin ú'r testun yn y dull canlynol:— I. Y weithred i'n hanogir ati. II. Y drefu i gyfiawni y cyfryw weith- red. III. Y budd cysylltiedig â'r cyfryw Weithrediad. I. Y weithred i'n hanogir ati, sef, " Gwnewch eich galwedigaeth a'ch heth- oledigaeth yn sicr." Cawn yma bedwar gair yn galw am ein hymchwil. Yn 1, Yr Alwedigaeth. Golygu yr ydwyf niai yr alwedigaeth effeithiol ydyw yr un a feddylir yn y testun. Ymddengys fod rhai yn anfoddlon i'r dywediad, gahcedigaeth effeithiol', ond y mae yr hen ddull a'r athrawiaeth, yn fy nhyb i, yn unol â gair Duw. Addefir nad ydyw pob galwad Cyf. V. efengylaidd yn effeithiol i ddychwelyd dynion—" Eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a'i clyw- sant." Heb. ìy, 2. Cawn ar rai amserau hanes fod y weinidogaeth yn effeithiol er iachawdwriaeth i eneidiau dynion—"Oble- gid ni bu ein hefengyl ni tuag atoch mewn gair yn unig, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr." 1 Thes. i, 5. Dichon i weision Duw draddodi y genadwri yn ffyddlon, ac eto orfod cwyno gan ddywedyd, " Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth."—"Pwy a gredodd i'n hymad- rodd 1 ac i bwy y 'dadguddiwyd braich yr Arglwydd V Esay xlix, 4, a liii, 1. Duw, trwy ei Làn Ysbryd, yn gweithio yn yr efengyl ar eneidiau dynion, o'i ben-ar- glwyddiaethol ras sydd yn peri iddi fod yn allu Duw er iechydwriaeth. Gwel Ezec. xxxvii, 9, 10, Ioan xvi, 8—11, Act. xi, 21, a Rhuf. i, 16, 17. Geilw yr apostol hi, yn alwedigaeth santaidd, 2 Tim. i, 9; am. mai i santeiddrwydd y gelwir hwy. Gel- wir hi yn alwedigaeth nefol, am mai y Duw santaidd sydd yn galw o'r nefoeddj ac yn tywys y galwedigion i'r nefoedd. 2 B