Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] EBRILL, 1844. [Rhif 28. EFENGYL CRIST YN ALLÜ DUW PR CREDINWYR, WEDI EI HBGLDBO IK FYR METVN PREGETH. GAN J. R. JONES, RAMOTH. " Canys nid oes arnafgywilyddo efengyl Crist; oblegid gaÜu Duic yw hi er iechawdwriaeth i bob un ar sydd yn credu; îr Iuddew yngyntaf, a hefyd i'r Groegwr."—Riiuf i, 16. Yr oedd Rhufain yn araser Paul yn ddi- nas enwog, flodeuog, a phoblog; lle yr ydoedd llawer o ddynion dysgedig a doeth- ion, ynghyd a rhai annysgedig ac annoeth- ion hefyd; ac yr oedd Paul, fel apostol i Grist, yn cydnabod ei ddyledswydd tuag atynt hwy oll; megis y mae yn cyífesu, " Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid ac i'r Bar- bariaid hefyd, i'r doethion, ac i'r annoethion hefyd. Felly, hyd y mae ynof fi, parod jdwyf i bregethu yr efengyl i chwithau, y rhai ydych yn Rhufain;" adn. 14, 15. Ac er bod pregethiad yr efengyl yn ffolineb, ac ynfydrwydd yn ngolwg doethion dysg- edig y byd hwn, y mae Paul yn cyffesu yn ëon nad oedd arno ef gywilydd o'r efengyl yr hon oedd, ac y sydd, yn allu Duw er iachawdwriaeth i'r holl gredinwyr, pa un ai Iuddewon ai Groegwyr: canys ynNghrist lesu nid oes gwahaniaeth.* Y mae geiriau y testyn yn dangos pa beth oedd cynnwysiad proffes yr apostol, sef efengyl Crist; a thrachefn y inodd yr oedd ef yncyffesu yr unrhyw; nid oedd arno gywilydd o efengyl Crist. Lle gallwn ddysgu hefyd fod yr hyn oedd yn wrthrych o ddirmyg a diystyrwch y byd, yn unig wrthrych o ymffrost a gorfoîedd gan yr apostol.f Wrth ymadroddi ychydig yn fwy neill- duol oddiwrth y testyn pwysfawr a rhag- °H>1 hwn, mi a gynnygiaf ei agoryd a'i egluro tan y penau canlynol:— • 1 Cor. 1.23, 24. t Gal. vi, 14. Cyf. III. I. Dangos ac ystyried cynnwysiad efeng- yl Crist, tan ychydig o benau neillduol. II. Dangos pa beth yw bod heb gywil- yddio o'r efengyl, megis mae yr apostol yn cyffesu yn y testyn. III. Cynnyg ihai rhesymau digonol dros y cyfryw ymddygiad. IV. Ychydig addysgiadau defnyddiol o'r cwbl. I. Mi ystyriaf gynnwysiad yr efengyl tan ychydig o benau, ac ar fyr eiriau. Y mae efengyl Crist yn cynnwys new- yddion da o lawenydd mawr am iachawdwr- iaeth a bywyd tragywyddol i bechaduriaid euog a thruenus.* Y mae yn gyflawniad o broffwydoliaethau yr Hen Destament yn ngenedigaeth, bywyd, marwolaeth, adgyf- odiad, ac esgyniad Mab Duw.f Ymae yn ddadguddiad o rydd ras a chariad Duw, (at fyd colledig a phechadurus), yr hwn a roddes ei unig-anedig Fab i farw yn offrwm ac yn aberth tros bechod, ac a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw, er cyfiawn- had i'w euog bobl.J Cymhwys a phriodol iawn, gan hyny, y gelwir yr efengyl yn air y gwirionedd—gair y cymmod—gair y bywyd—a gair yr iachawdwriaeth.§ Y mae holl briodoliaethau a deddf santaidd Duw, yn ymddangos yn dra gogoneddus yn' y genadwri nefawl hon; fel y dywedir ei bod yn dwyn " Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion • Luc ii, 10, 11. t Dat. xix, 10. J Rhaf.iv, 25. || Gal. iii, 1, Eph. i, 13,2 Coi. v, 18, Phil. ii, 16.