Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CERBYD DIRWESTOL. " Gwared y rhai a lusgir i angeu."—Diab. 24. 11. Rhif.YITI. Mehefin 15, 1838. {gjj^ V ©YlíOMWÌflÄSo Beth yw meddwyn? ......115 Cylchwyl y Uymdeithas Ddir- westaídd Frŷtanaidd aThra- mor................119 Dydd y Coroniad........123 Cyfarfod Chwarterol Llancur- gain ..............126 Cylchwyl Ddirwestol y Ehyl 126 BARDDONIAETH. Englynion ar Ddirwest, &c.. 127 Yr alwad gyffredinol, &e..... 129 Emyn i'w chanu ar ddydd Coroniad y Frenines...... 130 At y Gohebwyr, &c........130 BETH YW MEDDWYN. (Parâad o tu dal. 103.) —$*&*&- 9. Beth yw Meddwyn ? Y mwyaf gresynus a thruenus o'r holl anifeiliaid ydyw. Efe a ddeffry yn nghanol y nos wrth gael ei ddychryn gan íìeuddwyd- ion arswydus, ac yn crasu o syched anniffoddadwy : bydd yn gweled uffern yn agored wrth ei draed, a dîawliaid yn dawnsio o'i hamgylch, ac yn nghyfyngder ei enaid y dolefa, "Rhoddwch i mi ddafn o ddwfr i oeri fy nhafod, canys fe'm poenir yn y fflaro hon :'' ac Weithiáu bu i feddwon o dan ddylanwad y gwallgof- íwydd hwn, neidio o'u gwelyau, cipio elJyn, a thori y corn gwynt o glust i glust; neu gymmeryd rhaff, a thagu eu hunain, neu daflu eu hunain i ddwfr, a boddi, neu ddyfod yn wallgofiaid tros weddill eu dyddiau. A ydych yn dywedyd fod y darlun hwn yn cael ei liwio yn ormod ? Bu un gôf yn Proston, yn y cyfìwr yma am naw diwrnod, ar ol pymthegnos o yfed. Y mae wedi unoâ Chymdeithas y Tee-totals, a dyfod yn ddyn diwygiedig. A gwerthwr drachtiau yn Lŵerpooì, yr bwn a fu ychydig yn ol yn Ysbytty y gwaügofiaid, a