Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SYLWEDYDD. Rhip. 7.] GORPHENAF, 1831. [Cyf. I. ■ 11«...... niiminiMiminiÉiii i iii»i inWiimìÉii.....im n ..... ~ rm TRAETHAWD AR ENLLIB A'I ACHOSION, Good name in man or woman, Is the inimediate jewel of the soul, Who steals my purse steals trash ; 'Tis something,—nothing;—'twas mine, 'tis his, And may be slave to thousands ! But he that filches from me my good name, Robs me of that which not enriches him, Aud leaves me poor indeed ! Shareípeare. Fod y naill ddyn yn rhagori ar y llall sydd wirionedd a ellir ei gadarnâu, canys y maé profiad beunyddiol yft ein dysgu mai felly y niae ; ac fod y neb a ragora ar ereill, mewn unrhyw beth, yu wrthddrych enllib, sydd yr un mor eglur; oblegid, nid cynt y rhydd dyn ei droed ar y gris a'i dwg i'r amlwg o ganol y aiwl tew a orchuddia y rhan amlaf o'r oes, nag y byddcawodo saethau enllib yn cael eu gollwng at ei ben, a phob coegyn yn gwneud yn hŷf arno, ac yn chwennych rhoddi help ei !aw i'w dynu i lawr yn ngwysg ei gefa yn bendramwnwgl. Clywed plentyn teirbiwydd oed yn rhyfygu ceisio beirniadu Homer, ,neu ddatod cylym- au dyrys Vírgil, a barai i ddyn synhwyrol dosturio wrth ei ftolineb; felìy, clywed y lob, rheswm bol clawdd, yn traddodi ei farn am alluoedd yr ysgolaig, ac eangder ei wybodaeth, a'i ddiffygion, &c. a bâr i'r hwn a ŵyr ragor rhwng llyfr a phapyr gwyn, wênu; er hyny, yn mysg y rhai nad allant wahaniaethu rhwtíg y-Uyfr corn àg Euclid y mesurir enwog-ion yr oes>